Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr
Pryd y mae'n rhaid gwrthod pleidlais bost a gyflwynir?
Mae pedair sefyllfa lle mae’n rhaid i’r person awdurdodedig wrthod pleidlais bost/pleidleisiau post a gyflwynir.
Y rhesymau hyn yw bod yr unigolyn:
• heb gwblhau’n llawn y ffurflen pleidlais bost (anghyflawn)1
• wedi cyflwyno pleidleisiau post ar ran mwy na'r nifer o etholwyr a ganiateir2
• yn ymgyrchydd gwleidyddol na chaniateir iddo drin y pleidleisiau post3
• heb gwblhau'r ffurflen pleidlais bost (gadawyd ar ôl)4
Os yw unrhyw un o’r rhesymau uchod yn berthnasol i’r bleidlais bost/pleidleisiau post a gyflwynwyd, yna rhaid i’r person awdurdodedig lenwi adran 3B o’r ffurflen pleidlais bost, gan dicio pa rai o’r rhesymau sy’n berthnasol a nifer y pleidleisiau post sydd i’w gwrthod.
Unwaith y caiff ei gwrthod, dylid atodi'r ffurflen pleidlais bost wedi'i chwblhau i (fwndel y) pleidleisiau post a wrthodwyd a'i rhoi yn y pecyn ar gyfer pleidleisiau post a wrthodwyd.5
Dylid selio'r pecyn hwn a'i storio'n ddiogel nes iddo gael ei ddosbarthu i chi, ynghyd â'r pecynnau o bleidleisiau post a dderbyniwyd.6
Beth os nad yw unigolyn am lenwi'r ffurflen pleidlais bost?
Dylai’r person awdurdodedig egluro i’r unigolyn bod yn rhaid llenwi'r ffurflen pleidlais bost yn ôl y gyfraith ac ni ellir cyflwyno'r pleidleisiau post hebddi. Bydd unrhyw bleidleisiau post sy'n cael eu gadael ar ôl heb i'r ffurflen gael ei chwblhau’n cael eu gwrthod.7
Os yw’r unigolyn yn mynnu gadael y bleidlais bost/pleidleisiau post ar ôl yn yr orsaf bleidleisio heb gwblhau ffurflen, cwblhewch adran 3B y ffurflen pleidlais bost, gan dicio'r opsiwn ‘heb gwblhau’n llawn y ffurflen pleidlais bost’, atodwch y ffurflen i'r bleidlais bost/pleidleisiau post a rhowch y bwndel yn y pecyn ar gyfer pleidleisiau post a wrthodwyd.
Beth os yw unigolyn am gyflwyno pleidleisiau post i fwy na 5 person arall?
Gall unigolion dim ond cyflwyno eu pleidlais bost eu hunain yn ogystal â phleidleisiau post ar gyfer hyd at 5 person arall.
Dylai'r unigolyn benderfynu pa bleidleisiau post y mae am eu cyflwyno. Gall adael swyddfa'r cyngor i wneud y penderfyniad.
Gall yr unigolyn gyflwyno'r nifer o bleidleisiau post a ganiateir a gadael swyddfa’r cyngor gyda gweddill y pleidleisiau post.
Os bydd yr unigolyn yn mynnu cyflwyno pleidleisiau post i fwy na 5 person arall rhaid gwrthod yr holl bleidleisiau post ar gyfer y bobl eraill. Dim ond pleidlais bost yr unigolyn ei hun y gellir ei dderbyn.
Yn y sefyllfa hon, rhaid llenwi'r ffurflen pleidlais bost gyda'r wybodaeth ganlynol:
• yn adrannau 1 a 2, manylion yr unigolyn a’r bleidlais bost sydd i’w chyflwyno (os yw’n dychwelyd ei bleidlais bost eu hun)
• yn adran 3, bod pleidlais bost yr unigolyn wedi’i derbyn (rhan 3A a rhan 3B), a nifer y pleidleisiau post eraill a’r rheswm dros eu gwrthod (rhan 3B)
Rhaid atodi'r ffurflen pleidlais bost wedi'i chwblhau i'r pleidleisiau post a wrthodwyd a'i chadw yn y pecyn ar gyfer pleidleisiau post a wrthodwyd.
Gellir gosod y bleidlais bost a dderbyniwyd yn y pecyn ar gyfer pleidleisiau post a dderbyniwyd.
Ni ddylid cynorthwyo'r unigolyn i benderfynu pa bleidlais bost yw ei un ef.
Beth os nad yw unigolyn yn siŵr a yw'n ymgyrchydd gwleidyddol?
Diffinnir ymgyrchydd gwleidyddol yn y ddeddfwriaeth hon fel person sydd naill ai yn:8
• ymgeisydd yn yr etholiad;
• asiant etholiadol ymgeisydd yn yr etholiad;
• is-asiant asiant etholiadol yn yr etholiad;
• cael ei gyflogi neu yr ymgysylltir ag ef gan berson sy'n ymgeisydd yn yr etholiad at ddibenion gweithgareddau'r person hwnnw fel ymgeisydd;
• aelod o blaid wleidyddol gofrestredig sy'n cyflawni gweithgaredd sydd wedi'i gynllunio i hyrwyddo canlyniad penodol yn yr etholiad;
• cael ei gyflogi neu yr ymgysylltir ag ef gan blaid wleidyddol gofrestredig mewn cysylltiad â gweithgareddau gwleidyddol y blaid;
• cael ei gyflogi neu yr ymgysylltir ag ef gan berson a restrir uchod, i gyflawni gweithgaredd sydd wedi'i gynllunio i hyrwyddo canlyniad penodol yn yr etholiad;
• cael ei gyflogi neu yr ymgysylltir ag ef gan berson o fewn y paragraff uchod i gyflawni gweithgaredd sydd wedi'i gynllunio i hyrwyddo canlyniad penodol yn yr etholiad, ac yn cynnwys ymgeiswyr, asiantiaid a gweithwyr plaid.
Ni ddylid rhoi cyngor ynghylch a yw rhywun yn bodloni'r diffiniad hwn. Gellir dangos i'r unigolyn y diffiniad o ymgyrchydd gwleidyddol, sydd wedi'i nodi ar gefn y ffurflen pleidlais bost, i'w helpu i benderfynu a all gyflwyno'r bleidlais bost/pleidleisiau post.
Os yw’n dal i fod yn ansicr ar ôl darllen y diffiniad ar y ffurflen, dylai geisio’i gyngor cyfreithiol ei hun.
Beth os yw’r ymgeisydd yn rhoi gwybod ei fod yn ymgyrchydd gwleidyddol (ac yn cyflwyno pleidleisiau post ar gyfer pobl nad ydynt yn berthnasau agos neu’n bobl y maent yn darparu gofal rheolaidd ar eu cyfer)?
Dylid rhoi gwybod i'r ymgyrchydd na chaniateir iddo gyflwyno pleidleisiau post oni bai mai ei bleidleisiau post ef ei hun ydynt, neu ei fod yn cyflwyno pleidleisiau post ar gyfer perthnasau agos neu bobl y mae’n darparu gofal ar eu cyfer.
Os yw’r unigolyn wedi nodi nad yw'r holl bleidleisiau post yn perthyn i berthnasau agos neu rywun y mae’n darparu gofal ar eu cyfer, a'i fod yn mynnu ei fod am eu cyflwyno, dylai'r person awdurdodedig roi gwybod iddo:
• ei bod hi’n drosedd i ymgyrchwyr gwleidyddol drin pleidleisiau post nad ydynt yn rhai eu hunain, rhai perthnasau agos neu rai rhywun y maent yn darparu gofal ar eu cyfer
• bydd unrhyw bleidleisiau post a gyflwynir sy'n perthyn i bobl eraill ac eithrio'r rhai a nodir uchod yn cael eu gwrthod
• bydd y Swyddog Canlyniadau yn hysbysu'r heddlu os yw’n amau bod trosedd wedi'i chyflawni
Dylid gofyn i'r ymgyrchydd gwleidyddol gyflwyno'r pleidleisiau post. Rhaid cofnodi manylion y pleidleisiau post a wrthodwyd yn adran 3 y ffurflen a’i hatodi i'r pleidleisiau post a wrthodwyd.
Os bydd yr ymgyrchydd gwleidyddol yn gwrthod cyflwyno'r pleidleisiau post ac yn gadael yr adeilad, dylai’r person awdurdodedig gofnodi'r manylion a rhoi gwybod i’r Swyddog Canlyniadau.
Beth i'w wneud os bydd unigolyn yn gadael pleidleisiau post yn swyddfeydd y cyngor heb lenwi'r ffurflen?
Os gadawyd pleidleisiau post yn swyddfeydd y cyngor, rhaid i’r person awdurdodedig wrthod y bleidlais bost/pleidleisiau post a adawyd ar ôl9 a chofnodi manylion y bleidlais bost/pleidleisiau post yn adran 3B y ffurflen pleidlais bost. Rhaid i'r person awdurdodedig ysgrifennu ei enw ar y ffurflen pleidlais bost a'i atodi i'r bleidlais bost/pleidleisiau post a adawyd ar ôl. Yn y sefyllfa hon, mae'r pleidleisiau post yn cael eu gwrthod gan nad oeddent 'wedi cwblhau ffurflen pleidlais bost' (gadawyd ar ôl).
- 1. Rheoliad 82B(1)(a) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 (Cymru a Lloegr)(Yr Alban) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 82B(1)(b) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 (Cymru a Lloegr)(Yr Alban) ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliad 82B(1)(c) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 (Cymru a Lloegr)(Yr Alban) ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheoliad 82D Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 (Cymru a Lloegr)(Yr Alban) ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Rheoliad 82C Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 (Cymru a Lloegr)(Yr Alban) ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Rheoliad 82C(4) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 (Cymru a Lloegr)(Yr Alban) ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Rheoliad 82D (2)(a) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 (Cymru a Lloegr)(Yr Alban) ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Adran 112A(7) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Rheoliad 82D(2)(a) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 (Cymru a Lloegr)(Yr Alban) ↩ Back to content at footnote 9