Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Ble gellir dychwelyd pleidleisiau post â llaw?

Gellir dychwelyd pleidleisiau post â llaw i orsaf bleidleisio neu at y Swyddog Canlyniadau yn swyddfeydd y cyngor yn yr etholaeth.

Mae cyfyngiadau ar nifer y pleidleisiau post y gellir eu cyflwyno a chyfyngiadau ar bwy all yr unigolyn sy'n cyflwyno'r nifer cyfyngedig o bleidleisiau post fod ar gyfer pob pleidlais a gynhelir. Mae hyn yn berthnasol mewn gorsafoedd pleidleisio a swyddfeydd cynghorau.

Pleidleisiau post yn cael eu dychwelyd i orsafoedd pleidleisio

Dylech bwysleisio i staff gorsafoedd pleidleisio, gan gynnwys arolygwyr gorsafoedd pleidleisio, bwysigrwydd cynnal diogelwch pleidleisiau post a gyflwynir i orsafoedd pleidleisio ar y diwrnod pleidleisio bob amser.

Er mwyn helpu i leihau'r tebygolrwydd o dderbyn symiau mawr o bleidleisiau post yn y cyfrif a helpu i leihau'r risg o oedi i amser dechrau'r cyfrif, dylech drefnu i gasglu pleidleisiau post o orsafoedd pleidleisio ar wahanol adegau drwy gydol y diwrnod pleidleisio.

Beth yw'r weithdrefn ar gyfer derbyn pleidleisiau post a gyflwynir yn yr orsaf bleidleisio?

Mae’r weithdrefn arferol i’w dilyn ar gyfer pleidleisiau post a gyflwynir wedi’i nodi yn llawlyfr gorsafoedd pleidleisio’r Comisiwn.  Gellir hefyd dod o hyd i ganllawiau pellach ar fynd i’r afael â phleidleisiau post a ddychwelir i orsafoedd pleidleisio, ar fynd i’r afael ag ymholiadau sy'n deillio o gyflwyno pleidleisiau post, a'r sefyllfaoedd lle mae'n rhaid gwrthod pleidleisiau post a gyflwynwyd mewn gorsafoedd pleidleisio yn y llawlyfr gorsafoedd pleidleisio.

Dylech roi digon o becynnau ar gyfer pleidleisiau post a ddychwelir i'r orsaf bleidleisio i staff gorsafoedd pleidleisio. Dylai'r pecynnau hyn gael eu labelu'n glir fel rhai sy'n cynnwys pleidleisiau post, a dylent gynnwys enw'r orsaf bleidleisio a dynodwr yr orsaf bleidleisio. 

Pleidleisiau post a ddychwelir â llaw i swyddfeydd y cyngor

Mae gwybodaeth am y weithdrefn i'w dilyn ar gyfer pleidleisiau post a gyflwynir yn swyddfeydd y cyngor wedi'i nodi yn ein canllawiau ar reoli derbyn pleidleisiau post a gyflwynir yn swyddfeydd y cyngor. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Tachwedd 2024