Gall unigolyn gyflwyno ei bleidlais bost ei hun yn ogystal â phleidleisiau post i hyd at bum person arall fesul etholiad a gynhelir.
Fodd bynnag, os bydd yr unigolyn yn cadarnhau ei fod yn ymgyrchydd gwleidyddol, dim ond ei bleidlais bost ei hun a hyd at bump arall y caniateir iddo eu cyflwyno fesul etholiad. Mae’n rhaid i’r rhain fod yn perthyn i berthnasau agos iddo, neu i rywun y darperir gofal rheolaidd iddynt ganddo neu gan y sefydliad sydd naill ai’n eu cyflogi neu’n gweithio â nhw.
Priod, partner sifil, rhiant, nain/mam-gu neu daid/tad-cu,brawd, chwaer, plentyn, ŵyr neu wyres yw perthnasau agos unigolyn. Mae dau berson sy'n byw gyda'i gilydd fel pe baent yn bâr priod neu'n bartneriaid sifil yn cael eu trin felly.
Pan fydd unigolyn yn cyflwyno pleidleisiau post ar gyfer etholwyr y mae’n gweithredu fel dirprwy ar eu cyfer, mae nifer y pleidleisiau post y gallant eu cyflwyno i bobl eraill yn cael ei leihau gan nifer y pleidleisiau post dirprwy y mae’n eu cyflwyno.
Pwy na all gyflwyno pleidleisiau post?
Ni all ymgyrchwyr gwleidyddol drin pleidleisiau post ar gyfer etholwyr eraill nad ydynt yn berthnasau agos neu’n rywun y maent yn darparu gofal rheolaidd ar eu cyfer.
Ni chaniateir i unigolion dan 18 oed gyflwyno pleidleisiau post mewn gorsafoedd pleidleisio
Ni chaniateir i unigolion sydd eisoes wedi cyflwyno’r uchafswm o bleidleisiau post a ganiateir ar gyfer yr etholiad hwnnw gyflwyno unrhyw bleidleisiau post pellach ar gyfer yr etholiad hwnnw