Dylech sicrhau bod trefniadau dirprwyo ar waith rhag ofn na allwch weithredu'n bersonol fel Swyddog Canlyniadau Lleol. Gallwch benodi dirprwyon i gyflawni eich holl ddyletswyddau1
neu rai ohonynt a gall hyn fod am gyfnod cyfyngedig neu am gyfnod amhenodol.
Dylai unrhyw ddirprwyon a benodir feddu ar y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i gyflawni'r swyddogaethau a neilltuwyd iddynt megis rheoli'r broses pleidleisiau post neu wneud dyfarniadau ynghylch papurau pleidleisio amheus.
Dylech gadarnhau unrhyw benodiadau'n ysgrifenedig a chynnwys manylion y swyddogaethau y mae'r dirprwy wedi'i awdurdodi i'w harfer ar eich rhan.2
Dylai'r penodiad hefyd gael ei dderbyn yn ysgrifenedig.
Mae dirprwy yn atebol, yn yr un ffordd â'r Swyddog Canlyniadau Lleol, am dorri dyletswydd swyddogol.3
1. Rheoliad 5, Rheoliadau Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (Swyddogaethau Swyddogion Canlyniadau) 2012↩ Back to content at footnote 1
2. Rheoliad 5, Rheoliadau Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (Swyddogaethau Swyddogion Canlyniadau) 2012 ↩ Back to content at footnote 2