Dylech sefydlu tîm prosiect er mwyn eich helpu i gyflawni'ch swyddogaethau a chynnal etholiad a gaiff ei redeg yn dda. Yn ogystal â chi'ch hun, dylai eich tîm prosiect gynnwys unrhyw ddirprwyon a benodwyd, aelodau eraill o staff etholiadau a'r Swyddog Cofrestru Etholiadol, os nad chi yw'r swyddog hwnnw.
Dylai hefyd gynnwys unrhyw aelodau allweddol eraill o bersonél sy'n briodol yn eich barn chi, fel:
tîm cyfathrebu eich cyngor
y Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu, os nad chi yw'r swyddog hwnnw
Swyddogion Canlyniadau Lleol o ardal yr heddlu
cydweithwyr adnoddau dynol
cydweithwyr cyllid
TG
staff eich canolfan gyswllt/blaen tŷ
staff cyfleusterau
eich pwynt cyswllt unigol yn yr heddlu lleol
Dylai fod gan y tîm prosiect gylch gwaith clir a dealltwriaeth o'r tasgau i'w cynnal. Dylech baratoi amserlen o gyfarfodydd yn ystod y cam cynllunio, a chadw cofnod o bob cyfarfod fel trywydd archwilio o'r hyn a drafodwyd ac o unrhyw benderfyniadau a wnaed. Lle y bo'n bosibl, dylai'r Swyddog Canlyniadau Lleol gadeirio unrhyw gyfarfodydd ffurfiol a gynhelir gan y tîm prosiect