| Argraffu'r canllawiau llawn

Gweithio gyda'r Swyddog Cofrestru Etholiadol

Os nad chi yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd, bydd angen i chi gysylltu'n agos â'r unigolyn hwnnw i gael y data cofrestru a phleidleisio absennol perthnasol. Dylech sicrhau bod diogelwch data yn cael ei ystyried a bod unrhyw ddata yn cael eu trosglwyddo'n ddiogel.

Os bydd angen cyfnewid data yn electronig, dylech gytuno ar amseriadau cyfnewid data a sicrhau bod y broses yn cael ei phrofi cyn y dyddiad trosglwyddo cyntaf. 

Caiff y data eu diweddaru ar adegau gwahanol yn ystod amserlen yr etholiad, gan fod yn rhaid i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol gyhoeddi dau hysbysiad newid etholiad interim yn ogystal â'r hysbysiad newid etholiad terfynol.1  Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol yng Nghymru a Lloegr.

Mae'r Comisiwn wedi cyhoeddi amserlen sy'n cynnwys y dyddiadau sy'n berthnasol ar gyfer cyhoeddi'r hysbysiadau hyn. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 8 Ionawr 2024