| Argraffu'r canllawiau llawn

Gweithio gyda'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu

Os nad chi yw'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu hefyd, bydd angen i chi weithio'n agos gydag ef yn ystod y camau cynllunio er mwyn helpu i lywio penderfyniadau a wneir o ran cynnal yr etholiad.

Gall y Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu roi cyfarwyddiadau ar rai swyddogaethau allweddol, ac os defnyddir y pŵer hwn, rhaid i chi ddilyn y cyfarwyddiadau hyn.

Mae'n bwysig eich bod yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu am hynt y broses etholiadol rydych yn gyfrifol amdani, a hefyd am unrhyw faterion sydd wedi dod i'r golwg yn eich ardal bleidleisio.

Os bydd angen cyfnewid data yn electronig, dylech gytuno ar amseriadau cyfnewid data a sicrhau bod y broses yn cael ei phrofi cyn y dyddiad trosglwyddo cyntaf. Dylech sicrhau bod diogelwch data yn cael ei ystyried a bod unrhyw ddata yn cael eu trosglwyddo'n ddiogel.

Am ragor o wybodaeth am rôl y Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu, gweler ein canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Ardal Heddlu

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2023