Cynnal cofrestru etholiadol - Cymru
Gofyn am dystiolaeth o genedligrwydd
Gofyn am dystiolaeth o genedligrwydd neu statws mewnfudo rhywun
Tystiolaeth o genedligrwydd
Os nad ydych yn fodlon ynghylch cenedligrwydd unrhyw ymgeisydd neu etholwr, mae gennych y pŵer i'w gwneud yn ofynnol i'r ymgeisydd neu'r etholwr roi tystiolaeth ddogfennol i chi sy'n cadarnhau ei genedligrwydd. Cewch ofyn am y dystiolaeth ganlynol:1
- tystysgrif geni
- tystysgrif dinasyddio
- os bydd unigolyn wedi gwneud cais i gofrestru fel etholwr tramor, tystiolaeth bellach mewn perthynas â'i statws fel dinesydd Prydeinig
- dogfen sy'n dangos bod unigolyn wedi dod yn ddinesydd y Gymanwlad
- datganiad statudol yn datgan ei fod yn ddinesydd cymwys y Gymanwlad, yn ddinesydd Gweriniaeth Iwerddon neu'n ddinesydd perthnasol yr Undeb Ewropeaidd
Tystiolaeth o statws mewnfudo ar gyfer dinasyddion yr UE sydd â hawliau a gedwir i bennu cymhwysedd i gofrestru a phleidleisio mewn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Er mwyn penderfynu a yw ymgeisydd o’r UE yn bodloni’r gofynion preswylio hanesyddol ac a all gael ei gofrestru fel dinesydd yr UE â hawliau a gedwir, mae gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol y pŵer i fynnu tystiolaeth o’i statws mewnfudo hanesyddol.
Gall Swyddogion Cofrestru Etholiadol gadw neu gael mynediad at ystod o ddata at ddiben eu dyletswyddau cofrestru ac nid yw'r ddeddfwriaeth yn rhagnodol ynghylch pa ddata y gellir ei ddefnyddio i helpu sefydlu a yw etholwr yn ddinesydd yr UE sydd â hawliau a gedwir.
Os oes gan eich Meddalwedd Rheoli Etholiadol hanes cofrestru digonol i nodi a oedd dinesydd UE19 wedi’i gofrestru cyn dyddiad dechrau’r cyfnod gweithredu, gallwch ddefnyddio’r wybodaeth hon i’w pennu fel bod yn gymwys i gofrestru a phleidleisio mewn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu fel dinesydd yr UE sydd â hawliau a gedwir.
Os nad oes gennych fynediad at hanes cofrestru ac mae dal angen gwybodaeth bellach arnoch er mwyn penderfynu a yw'r etholwr yn ddinesydd yr UE sydd â hawliau a gedwir, gallwch ei gwneud yn ofynnol i'r etholwr, os nad yw eisoes wedi gwneud hynny, ddatgan ei fod wedi bod yn y DU ers cyn dyddiad dechrau’r cyfnod gweithredu a darparu cod rhannu a fydd yn caniatáu i chi weld statws mewnfudo'r etholwr gan ddefnyddio'r gwasanaeth gweld a phrofi (Yn agor mewn ffenestr newydd).
Mae cadarnhad o’r dyddiad y cyrhaeddodd etholwr y DU yn bwysig oherwydd bydd y gwasanaeth gweld a phrofi ond yn rhoi sicrwydd o statws mewnfudo cyfredol y gellir ei gymhwyso hefyd i unigolion yma ar y cynllun teulu a allai fod wedi cyrraedd ar ôl dyddiad dechrau’r cyfnod gweithredu.
Ni fydd rhai etholwyr yn gallu darparu cod ac, o dan yr amgylchiadau hyn, dylech ofyn am unrhyw lythyrau neu ddogfennau a gyhoeddir gan y Swyddfa Gartref sy’n cadarnhau statws mewnfudo cyfredol neu hanesyddol yr etholwr.
Os darperir tystiolaeth ddogfennol gan ymgeisydd ac mae’r enw ar unrhyw ddogfen yn wahanol i’r enw y mae’r ymgeisydd yn gwneud cais iddo gael ei gofrestru, dylai’r ymgeisydd hefyd ddarparu tystiolaeth sy’n dangos cysylltiad clir rhwng y dystiolaeth a’r enw y maent yn gwneud cais iddo gael ei gofrestru.
Gall dogfennau derbyniol i brofi’r cysylltiad hyn gynnwys:
- tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil
- tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil tramor
- gweithred newid enw ymrestredig
- gweithred newid enw nad yw’n ymrestredig neu weithred newid enw
- datganiad statudol neu affidafid
- tystysgrif bedyddio neu gadarnhau (ar gyfer enwau cyntaf yn unig)tystysgrif geni
- tystysgrif brodori neu gofrestru
- gorchymyn/tystysgrif mabwysiadu
Nid yw'r rhestr hon yn un gynhwysfawr a’ch cyfrifoldeb chi yw penderfynu a yw dogfen yn dystiolaeth foddhaol o gysylltiad rhwng enw’r etholwr ac unrhyw dystiolaeth ddogfennol arall.
Dylech wneud cais am gopïau o’r dystiolaeth, naill ai drwy’r post neu drwy ddulliau electronig. Gall yr ymgeisydd ddod â chopïau neu ddogfennau gwreiddiol i'ch swyddfa os nad ydynt am anfon copïau drwy’r post neu drwy ddulliau electronig. Dylai unrhyw gopïau o ddogfennau y bydd ymgeiswyr yn eu cyflwyno, neu y byddwch chi'n eu gwneud o ddogfennau gwreiddiol, gael eu storio'n ddiogel yn yr un ffordd â ffurflenni cais.
Rhaid i chi fod yn fodlon bod y dogfennau neu'r copïau a roddir i chi yn ymddangos yn ddilys. Os oes gennych unrhyw amheuon, neu os bydd ansawdd y copi mor wael fel na allwch wneud asesiad, gallwch ofyn i'r ymgeisydd gyflwyno'r ddogfen wreiddiol neu'r dogfennau gwreiddiol i chi yn bersonol neu anfon dogfennau gwreiddiol er mwyn eu copïo a'u dychwelyd. Fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol mai chi fyddai'n dod yn gyfrifol am sicrhau y caiff y ddogfen ei chludo'n ddiogel.
Os oes mwy nag un achos o newid enw wedi bod, dylai’r ymgeisydd ddarparu tystiolaeth ddigonol i ddangos cysylltiad clir rhwng yr enw ar y dystiolaeth ddogfennol a’r enw y maent am ei gofrestru.
Tystiolaeth o statws mewnfudo ar gyfer unrhyw genedligrwydd cymwys ar gyfer etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn y DU
Er mwyn cael hawl i gofrestru i bleidleisio mewn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn y DU, mae'n rhaid i berson fod yn preswylio yn gyfreithlon yn y DU. Os oes gennych unrhyw amheuon ynghylch p'un a yw ymgeisydd neu etholwr yn breswylydd cyfreithlon, gallwch wneud cais bod yr ymgeisydd neu’r etholwr yn darparu datganiad statudol sy'n dangos ei fod:
- yn ddinesydd cymwys y Gymanwlad neu'n ddinesydd Gweriniaeth Iwerddon
- ar gyfer etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu eu bod yn ddinesydd cymwys yr UE, neu’n ddinesydd yr UE sydd â hawliau a gedwir
Gallwch hefyd wneud cais bod statws mewnfudo person yn cael ei wirio yn erbyn cofnodion y Swyddfa Gartref.
Mae rhagor o ganllawiau ar y broses hon a manylion cyswllt ar gael drwy gysylltu â'r Swyddfa Gartref (Yn agor mewn ffenestr newydd). Gofynnir i chi gwblhau templed a fydd yn cael ei ddarparu – cwblhewch a dychwelwch yr adran o dan y pennawd ‘Pwnc 1’ i’r un cyfeiriad e-bost. Mae’r Swyddfa Gartref wedi gofyn am un templed fesul pwnc fesul e-bost, a bod ‘ER’ yn cael ei ychwanegu at y pennawd pwnc ar gyfer pob e-bost i sicrhau ei fod yn mynd i mewn i’r ffolder cywir ar gyfer ymateb. Bydd y Swyddfa Gartref yn ymateb o fewn pum diwrnod gwaith oni bai bod angen ffeil, ac os felly bydd yn ymateb o fewn deg diwrnod gwaith. Mae’r ffaith efallai y bydd angen tystiolaeth ychwanegol arnoch o genedligrwydd ymgeisydd, a gallwch fyn am wirio statws mewnfudo person yn erbyn cofnodion y Llywodraeth, wedi’i chynnwys ar y ffurflen gais i gofrestru a gymeradwyir gan y Gweinidog ac a fydd ar gael i chi gan y Comisiwn.
- 1. Rheoliad 24, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Lloegr a Chymru) 2001 ↩ Back to content at footnote 1