Am ba hyd y mae datganiadau gwasanaeth yn ddilys?

Am ba hyd y mae datganiadau gwasanaeth yn ddilys?

Mae datganiad gwasanaeth ar gyfer aelodau o luoedd EM neu eu cymar neu bartner sifil yn ddilys am bum mlynedd.1 Gellir dileu cofrestriadau yn gynharach o dan yr amgylchiadau canlynol:2  

  • penderfyniad i ganslo'r cofrestriad gan yr etholwr 
  • rydych yn penderfynu nad oes gan yr unigolyn yr hawl i gael ei gofrestru
  • rydych yn penderfynu bod yr unigolyn wedi'i gofrestru, neu fod ei gofnod wedi'i newid, o ganlyniad i gais a wnaed gan unigolyn arall (h.y. nid yr unigolyn y darperir ei fanylion ar y cais ac sydd wedi datgan bod y wybodaeth a ddarparwyd yn wir)
  • os gwneir cofnod arall mewn perthynas â'r etholwr ar unrhyw gofrestr etholwyr 

I gael canllawiau ar dynnu etholwr oddi ar y gofrestr, gweler ein canllawiau ar ddileu.

Mae'n rhaid gwrthod datganiad gwasanaeth a geir mwy na thri mis ar ôl y dyddiad a nodir arno.3 Dylid hysbysu'r ymgeisydd a'i wahodd i gyflwyno datganiad newydd.

Gall pleidleisiwr yn y lluoedd arfog ganslo ei ddatganiad unrhyw bryd.4 Bydd canslo datganiad gwasanaeth yn canslo unrhyw drefniant pleidleisio absennol a wnaed mewn perthynas â'r datganiad hwnnw hyd yn oed os bydd yr etholwr yn cofrestru fel etholwr cyffredin yn yr un cyfeiriad cymhwyso. 

Pleidleiswyr yn y lluoedd arfog sydd o dan 18 oed 

Mae'n rhaid i unigolyn o dan 18 oed sydd wedi'i gofrestru fel pleidleisiwr yn y lluoedd arfog am ei fod yn byw gyda rhiant neu warcheidwad sy'n aelod o luoedd EM adnewyddu ei gofrestriad bob blwyddyn.5  

Bydd ei gofrestriad fel pleidleisiwr yn y lluoedd arfog yn dod i ben pan fydd yn 18 oed. Gweler ein canllawiau ar adnewyddu datganiadau gwasanaeth sy'n ymdrin â'r broses adnewyddu ar gyfer unigolion o dan 18 oed.  
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2021