Cofrestru'n ddienw

Cofrestru'n ddienw

Cynigir trefniadau ar gyfer cofrestru'n ddienw i etholwyr y byddai eu diogelwch mewn perygl pe rhestrwyd eu henw neu gyfeiriad ar y gofrestr etholiadol. Mae pobl eraill yn yr un cartref yn gymwys hefyd i gofrestru fel etholwyr dienw a gallant wneud cais i gofrestru'n ddienw os byddant am wneud hynny.1  

Dylech ystyried pa sefydliadau neu eiddo, megis llochesi, a ddylai dderbyn ffurflenni cofrestru'n ddienw a gwybodaeth ychwanegol fel rhan o'ch dyletswydd i gynnal y gofrestr. Gellid anfon ffurflenni cais cofrestru gyda nodyn yn egluro ystyr cofrestru'n ddienw a sut y gall pobl wneud cais. 

Mewn partneriaeth â Cymorth i Fenywod, rydym wedi llunio canllaw i gofrestru'n ddienw ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda goroeswyr trais domestig. 

Mae'r canllaw, a all hefyd fod yn ddefnyddiol i chi a'ch staff, yn egluro ystyr cofrestru'n ddienw ac y caiff manylion am enw a chyfeiriad ymgeisydd eu cadw'n ddiogel ac na fydd modd chwilio amdanynt ar y gofrestr etholiadol. Mae'r canllaw hefyd yn nodi sut i wneud cais i gofrestru'n ddienw. 

Gall fod amgylchiadau lle y bydd darn o ohebiaeth ganfasio a ddychwelir yn cynnwys nodyn gan ddarpar etholwr yn cynnwys rheswm a allai fodloni'r gofynion ar gyfer cofrestru'n ddienw. Os felly, dylid anfon cais i gofrestru'n ddienw a dylid hysbysu'r unigolyn y gall fod hawl gan bobl eraill yn y cartref i gofrestru'n ddienw hefyd. 

Cyfuno cofrestriad dienw â hawl arall sydd gan etholwr categori arbennig 

Nid yw cofrestru'n ddienw yn effeithio ar unrhyw hawl arall sydd gan etholwyr categori arbennig a gellir eu cyfuno. Er enghraifft, gallai unigolyn fod yn etholwr dienw â chysylltiad lleol neu'n bleidleisiwr gwasanaeth dienw, neu'n bleidleisiwr tramor dienw os yw'n bodloni'r cymhwyster ar gyfer y ddau gofrestriad.  
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 16 Ionawr 2023