| Argraffu'r canllawiau llawn

Datganiadau o gysylltiad lleol

Datganiadau o gysylltiad lleol

Gall unigolyn nad oes cyfeiriad sefydlog neu barhaol ganddo gofrestru mewn cyfeiriad maent yn treulio rhan sylweddol o’u hamser, (p’un a bod hyn yn ystod y dydd neu’r nos),1 drwy wneud datganiad o gysylltiad lleol.
 
Mae ein canllawiau ar gymhwysedd i gofrestru yn nodi'n fanwl pwy all wneud datganiad o gysylltiad lleol. 

Ceir sail ychwanegol ar gyfer gwneud datganiad o gysylltiad lleol i'r rheini o dan 16 oed os ydynt yn blant sy'n derbyn gofal, neu eu bod wedi derbyn gofal yn y gorffennol, neu os ydynt yn cael eu cadw mewn llety diogel ar hyn o bryd.2 Bydd dyletswydd ar awdurdodau lleol yng Nghymru i hyrwyddo ymwybyddiaeth o sut i gofrestru fel etholwyr llywodraeth leol ymhlith plant sy'n "derbyn gofal" ac i roi cymorth i helpu pobl ifanc o'r fath i gofrestru.3 Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am y ddyletswydd hon, gweler a all unigolyn gofrestru i bleidleisio os nad oes cyfeiriad sefydlog ganddo.

Diweddarwyd ddiwethaf: 8 Rhagfyr 2025