Adnewyddu datganiadau gwasanaeth

Adnewyddu datganiadau gwasanaeth

Mae gan unigolyn sydd wedi'i gofrestru fel pleidleisiwr sy'n aelod o luoedd EM yr hawl i barhau i gael ei gofrestru ar yr amod bod yr etholwr yn parhau i fodloni'r amodau eraill ar gyfer cofrestru tan ddiwedd y cyfnod pum mlynedd sy'n dechrau ar y dyddiad pan ddaw'r cofnod i rym gyntaf. Dylech gysylltu â'r pleidleisiwr sy'n aelod o luoedd EM yn ystod y cyfnod pum mlynedd hwn er mwyn sicrhau bod ei gofrestriad a'i drefniadau pleidleisio yn parhau'n gyfredol. 

Bydd angen i chi gadw cofnod yn dangos pryd mae angen anfon ffurflenni atgoffa. 

Mae'n rhaid i chi atgoffa pob pleidleisiwr yn y lluoedd arfog bod angen iddo wneud datganiad newydd os yw'n dymuno parhau wedi'i gofrestru.1 Rhaid i'r ffurflen atgoffa gael ei hanfon rhwng 57 a 58 mis ar ôl y dyddiad pan ddaw'r cofnod gwasanaeth i rym gyntaf2 a dylai gynnwys datganiad newydd i'r pleidleisiwr yn y lluoedd arfog ei gwblhau. Os na fyddwch wedi cael datganiad newydd, mae'n ofynnol i chi anfon ail ffurflen atgoffa rhwng 21 diwrnod a 28 diwrnod ar ôl anfon y ffurflen atgoffa gyntaf.3  

Ni ddylid anfon ffurflenni atgoffa os byddwch wedi cael gwybod nad oes gan yr unigolyn yr hawl i wneud y datganiad perthnasol mwyach neu nad yw'n dymuno cael ei gofrestru fel pleidleisiwr yn y lluoedd arfog mwyach.4   

Lle na chaiff datganiad ei adnewyddu o fewn y cyfnod pum mlynedd ac y caiff yr unigolyn ei dynnu oddi ar y gofrestr, bydd hefyd yn colli unrhyw drefniant pleidleisio absennol a oedd ar waith.  

Gellir cael rhagor o wybodaeth am hysbysu etholwyr y byddant yn colli eu hawl i drefniadau pleidleisio absennol yn ein canllawiau ar bleidleisio absennol.

Pleidleiswyr gwasanaeth sydd o dan 18 oed 

Mae'n rhaid i unigolyn o dan 18 oed sydd wedi'i gofrestru fel pleidleisiwr yn y lluoedd arfog am ei fod yn byw gyda rhiant neu warcheidwad sy'n aelod o luoedd EM adnewyddu ei gofrestriad bob blwyddyn.5  

Dylech anfon ffurflen atgoffa yn hysbysu'r unigolyn bod angen iddo wneud datganiad newydd os yw'n dymuno parhau wedi'i gofrestru fel pleidleisiwr yn y lluoedd arfog, a dylech gynnwys datganiad iddo ei gwblhau. Dylid anfon y ffurflen atgoffa rhwng 9 a 10 mis ar ôl y dyddiad pan ddaw'r cofnod i rym gyntaf. Dylech anfon ail ffurflen atgoffa i'w hysbysu bod ei ddatganiad ar fin dod i ben, os na fydd wedi ymateb i'r ffurflen atgoffa gyntaf. Dylid anfon yr ail ffurflen atgoffa hon rhwng 21 diwrnod a 28 diwrnod ar ôl anfon y ffurflen atgoffa gyntaf. Bydd angen i chi gadw cofnod yn dangos pryd mae angen anfon ffurflenni atgoffa.

At hynny, bydd ei gofrestriad fel pleidleisiwr yn y lluoedd arfog yn dod i ben pan fydd yn 18 oed. Mae'n rhaid i chi anfon ffurflen atgoffa at yr etholwr yn nodi y bydd ei gofrestriad yn dod i ben pan fydd yn 18 oed, ac mae'n rhaid anfon y ffurflen atgoffa hon o fewn y cyfnod o dri mis sy'n dod i ben pan fydd yr unigolyn yn cyrraedd 18 oed.  Bydd angen iddo wneud cais newydd i gofrestru, gan adlewyrchu ei amgylchiadau ar y pryd.  


 

Diweddarwyd ddiwethaf: 28 Tachwedd 2023