Cynnal cofrestru etholiadol - Cymru
Pleidleiswyr sy'n aelodau o luoedd EM
Pleidleiswyr sy'n aelodau o luoedd EM
Gall aelod o luoedd EM a'i gymar neu bartner sifil gofrestru fel pleidleisiwr yn y lluoedd arfog er y gallant ddewis wneud cais i gofrestru fel etholwr cyffredin yn lle hynny o dan rai amgylchiadau.1
Mae aelod o luoedd EM yn unigolyn sy'n cael cyflog llawn wrth wasanaethu fel aelod o lynges, byddin neu awyrlu'r Goron a fagwyd yn y DU.
Mae unigolyn sydd o dan 18 oed ac sy'n byw gyda rhiant neu warcheidwad sy'n bleidleisiwr yn y lluoedd arfog hefyd yn gymwys i gofrestru fel pleidleisiwr yn y lluoedd arfog mewn etholiadau llywodraeth leol ac etholiadau'r Senedd.2
Mae'n rhaid ei fod yn byw yng Nghymru neu y byddai'n byw yng Nghymru pe na fyddai ei riant neu warcheidwad wedi'i leoli dramor.
Nid yw'r canlynol yn gymwys i fod yn bleidleiswyr sy'n aelod o luoedd EM:3
- unigolion sydd ond yn aelodau o luoedd wrth gefn neu luoedd cynorthwyol (ar wahân i'r rhai sy'n gwasanaethu yn ystod argyfwng)
- aelodau o'r fyddin arferol y mae'n ofynnol iddynt wasanaethu yng Ngogledd Iwerddon yn unig, yn ôl telerau eu gwasanaeth
Pan na fydd unigolyn yn gymwys i fod yn bleidleisiwr yn y lluoedd arfog am un o'r rhesymau a restrir uchod, ac nad yw yn y cyfeiriad yn y DU lle y bu'n byw, gellir tybio o hyd ei fod yn byw yno. Felly, gellir ei gofrestru fel etholwr cyffredin os bydd y tu allan i'r DU ar ddyletswydd.4
Swyddogion cofrestru unedau gwasanaeth
Mae pob uned wedi dynodi un aelod o staff i weithredu fel Swyddog Cofrestru Uned a gofynnwyd i gadlywydd pob canolfan filwrol roi cymorth i'r swyddog hwnnw a phersonél eraill yn ei uned i annog unigolion i gymryd rhan yn y broses etholiadol. Gallai uned gynnwys canolfan filwrol, llong, depo, barics ac ati.
Mae dyletswyddau'r Swyddog Cofrestru Uned yn cynnwys rhoi gwybodaeth i aelodau o'r lluoedd arfog a'u teulu a gweithredu fel cyswllt rhwng yr uned a Swyddogion Cofrestru Etholiadol lleol.
Os oes gennych unrhyw sefydliadau milwrol yn eich ardal, dylech gysylltu â'r Swyddogion Cofrestru Uned. Os bydd unrhyw broblemau yn codi o ran cofrestru aelodau o'r lluoedd arfog, dylech godi'r materion hyn gyda Swyddog Cofrestru Uned yr uned i ddechrau. Dylai bellach fod yn bosibl i chi gysylltu â Swyddog Cofrestru Uned mewn unrhyw leoliad, gan gynnwys dramor. Er mwyn cael gwybod pwy yw Swyddog Cofrestru Uned unrhyw uned benodol, mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn argymell y dylid cysylltu â'r uned yn uniongyrchol, drwy ymholiadau cyfeiriadur yn gyntaf, a gofyn am wybodaeth am y Swyddog Cofrestru Uned gan y canlynol wedyn:
- Y Llynges Frenhinol – swyddfa'r Prif Is-gapten
- Y Fyddin – swyddfa'r Dirprwy
- Yr Awyrlu Brenhinol – Prif Swyddog Gwasanaethau Aelodau'r Awyrlu Brenhinol (OC PSF)
Cofrestru pleidleiswyr sy'n aelodau o luoedd EM sy'n ddinasyddion tramor cymwys
Mae'n rhaid i ddatganiad gwasanaeth nodi'r cyfeiriad y mae'r ymgeisydd yn byw ynddo yn y DU, neu os yw'n byw dramor gan ei fod yn aelod o'r lluoedd, ble y byddai wedi bod yn byw yn y DU. Os na all nodi cyfeiriad o'r fath, mae'n rhaid iddo nodi cyfeiriad y bu'n byw ynddo yn y DU.5
Gall dinasyddion tramor cymwys, a gafodd eu recriwtio i'r lluoedd yn eu gwlad enedigol neu y tu allan i'r DU heb fyw yn y DU yn flaenorol, ond sy'n cael eu hyfforddi yn y DU ac yn cael eu hanfon dramor yn syth wedi hynny gofrestru:
- yng nghyfeiriad y barics lle y'u listiwyd a/neu y'u hyfforddwyd
- yn y barics yr oeddent yn byw ynddo neu y byddent yn byw ynddo os nad oeddent dramor
- yn eu pencadlys catrodol lle y gallent fod yn byw
- yn y cyfeiriad yn y DU lle y byddent yn byw os na fyddent yn y lluoedd arfog mwyach neu os na fyddai'n ofynnol iddynt fyw mewn barics, megis cyfeiriad perthynas
- 1. Adran 14(1)(a) a (d) DCyB 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adran 14(1A), DCyB 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Adran 59(1)(b) DCyB 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Adran 59(2) DCyB 1983 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Adran 16(1)(d) DCyB 1983 ↩ Back to content at footnote 5