Elusennau a sefydliadau eraill sydd â chyfyngiadau ar eu gweithgareddau gwleidyddol
Mae gan rai sefydliadau gyfyngiadau ar eu gweithgareddau gwleidyddol, er enghraifft, yn eu cyfansoddiad, neu elusennau sy'n rhwym wrth gyfraith elusennau.
Efallai y bydd y sefydliadau hyn o'r farn, drwy gydymffurfio â'r cyfyngiadau ar wahân hyn, eu bod yn llai tebygol o gynnal gweithgareddau sy'n bodloni'r prawf diben.
Mae hyn am fod y cyfyngiadau yn golygu bod llawer o'r mathau o ymgyrchoedd sy'n bodloni'r prawf diben wedi'u gwahardd ar gyfer y sefydliadau hynny.
Er enghraifft, rhaid i elusennau aros yn annibynnol ar wleidyddiaeth pleidiau ac mae'n rhaid iddynt beidio â chefnogi plaid wleidyddol nac ymgeisydd na chreu canfyddiad o gefnogaeth o ganlyniad i'w gweithredoedd neu eu cyfranogiad.
Os ydych yn elusen ac yn cydymffurfio â chyfraith a chanllawiau elusennau gan y rheoleiddiwr elusennau perthnasol, yn y rhan fwyaf o achosion, mae'n annhebygol y bydd eich gweithgarwch ymgyrchu yn bodloni'r prawf diben.
Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o'r rheolau i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau o hyd rhag ofn bod eich gweithgareddau yn bodloni'r prawf diben. O dan rai amgylchiadau, gall elusennau gynnal gweithgarwch ymgyrchu a reoleiddir o dan gyfraith etholiadol, ac mae elusennau yn gwneud hynny. Er enghraifft, yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU yn 2015 a 2017, cynhaliodd elusennau ymgyrchoedd a oedd yn bodloni'r profion ar gyfer gwariant a reoleiddir ac maent wedi cofrestru â ni yn unol â'r gyfraith.
Mae ein hastudiaethau achos o etholiadau diweddar yn rhoi enghreifftiau o ymgyrchu sy'n seiliedig ar faterion a fydd yn ddefnyddiol wrth gymhwyso'r prawf diben at eich ymgyrchoedd eich hunain.
Os ydych yn cynllunio ymgyrch a'ch bod yn dal yn ansicr ynghylch sut y mae'n cyd-fynd â'r rheolau ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau, cysylltwch â ni a gallwn roi cyngor i chi.