Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: Etholiadau cyffredinol Senedd y DU

Unigolion

Beth sy'n gwneud unigolyn yn ffynhonnell a ganiateir?

Rhaid i unigolion fod ar un o gofrestrau etholiadol y DU pan fyddwch yn cael y rhodd neu'r benthyciad.1  Mae hyn yn cynnwys etholwyr tramor. 

Os cewch gymynrodd, a bod yr unigolyn ar y gofrestr etholiadol ar unrhyw adeg yn ystod y pum mlynedd cyn iddo farw, cewch dderbyn y rhodd.2

Sut ydych yn cadarnhau bod unigolyn yn ffynhonnell a ganiateir?

Gallwch ddefnyddio'r gofrestr etholiadol i gadarnhau bod unigolyn yn ffynhonnell a ganiateir. Mae hawl gan ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau i gael copi am ddim o'r gofrestr etholiadol lawn.

Fel arfer caiff fersiwn newydd o'r gofrestr etholiadol ei chyhoeddi ar 1 Rhagfyr bob blwyddyn, a chaiff ei diweddaru'n rheolaidd. 

Dylech gysylltu â Swyddog Cofrestru Etholiadol y cyngor lleol perthnasol yn ysgrifenedig i ofyn am eich copi, gan egluro eich bod yn gofyn amdano fel ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid.3  Dylech ofyn i'r swyddog anfon yr holl ddiweddariadau atoch hefyd.

Byddwch yn cael y gofrestr ar ffurf electronig oni bai eich bod yn gofyn am fersiwn argraffedig o'r gofrestr.4

Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt cynghorau lleol drwy ddefnyddio ein hadnodd chwilio codau post.

Rhaid i chi edrych ar y gofrestr a'r diweddariadau'n ofalus, er mwyn sicrhau bod y person ar y gofrestr ar y dyddiad y cawsoch y rhodd. 

O dan amgylchiadau arbennig, bydd gan bobl gofrestriad dienw. Os yw'r unigolyn wedi'i gofrestru'n ddienw, rhaid i chi ddarparu datganiad i gadarnhau eich bod wedi gweld tystiolaeth bod gan yr unigolyn gofnod dienw ar y gofrestr.5  Bydd tystiolaeth ar ffurf tystysgrif o gofrestriad dienw. Rhaid i chi gyflwyno copi o'r dystysgrif wrth gyflwyno eich adroddiad.6

Dim ond er mwyn cadarnhau a yw unigolyn yn ffynhonnell a ganiateir neu at ddibenion etholiadol y cewch ddefnyddio'r gofrestr. Rhaid i chi beidio â'i rhoi i unrhyw un arall.7

Beth sydd angen i chi ei gofnodi? 

Rhaid i chi gofnodi: 

  • enw llawn yr unigolyn  
  • y cyfeiriad fel y mae'n ymddangos ar y gofrestr etholiadol, neu os mai etholwr tramor yw'r person, ei gyfeiriad cartref8

Efallai y bydd yn ddefnyddiol nodi rhif etholiadol yr unigolyn fel cofnod o'ch gwiriad.

Os byddwch wedi cael cymynrodd, cysylltwch â ni am gyngor ar gynnal gwiriadau caniatâd a'r gofynion o ran adrodd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 6 Mehefin 2024