| Argraffu'r canllawiau llawn

Partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig

Beth sy'n gwneud partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn un a ganiateir?

Mae partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig yn rhoddwr a ganiateir os yw:

  • wedi'i gofrestru o dan Ddeddf Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2000 
  • cynnal busnes yn y DU1

Sut ydych chi'n gwirio cofrestriad Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig?

Dylech wirio'r gofrestr yn Nhŷ’r Cwmnïau. Nid yw mathau eraill o bartneriaethau a restrir ar Dŷ'r Cwmnïau, megis partneriaethau cyfyngedig, wedi'u cynnwys yn y categori hwn o roddwr. 

Sut ydych chi’n cadarnhau a yw’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn cynnal busnes yn y DU?

Mae'n rhaid i chi fod yn fodlon fod y Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig yn cyflawni busnes yn y DU. Gall y busnes fod yn un nid er elw.

Hyd yn oed os oes gennych wybodaeth bersonol uniongyrchol am y Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig, dylech wirio cofrestr Tŷ’r Cwmnïau i weld:

  • a yw’r Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig yn cael ei diddymu, yn segur neu ar fin cael ei diddymu
  • a yw cyfrifon a datganiad cadarnhau'r Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig wedi dyddio

Mae’n bosibl y bydd Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig yn parhau i gynnal busnes os yw wedi’i diddymu, yn segur neu’n cyflwyno dogfennau’n hwyr, ond dylech wneud gwiriadau ychwanegol i fodloni eich hun mai dyna'r achos.

Ar gyfer unrhyw Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig, dylech ystyried edrych ar:

  • gwefan y Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig
  • masnach perthnasol, cyfeirlyfrau ffôn neu wefannau parchus
  • y cyfrifon diweddaraf a gyflwynwyd i Dŷ’r Cwmnïau

Os ydych yn dal i fod yn ansicr a yw’r Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig yn cynnal busnes yn y DU, dylech ofyn am gadarnhad ysgrifenedig o'i weithgareddau busnes gan aelodau y Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig.

Beth sydd angen i chi ei gofnodi? 

Rhaid i chi gofnodi:

  • yr enw fel y mae'n ymddangos ar y gofrestr 
  • cyfeiriad swyddfa gofrestredig y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig2

Dylech hefyd gofnodi rhif cofrestru'r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig.

Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Hydref 2026