| Argraffu'r canllawiau llawn

Cwmnïau

Beth sy'n gwneud cwmni yn un a ganiateir?

Mae cwmni yn rhoddwr a ganiateir os yw:

  • wedi’i gofrestru o dan Ddeddf Cwmnïau 2006,
  • wedi'i gorffori yn y DU, ac
  • yn cynnal busnes yn y DU1

Mae'n rhaid i chi sicrhau fod y cwmni'n bodloni'r meini prawf hyn i gyd.

Sut ydych chi'n gwirio cofrestriad a chorfforiad cwmni?

Dylech wirio cofrestriad cwmni ar Dŷ'r Cwmnïau. 

Dylech edrych ar gofnod llawn y gofrestr ar gyfer y cwmni, yn benodol gan wirio pa fath o gwmni ydyw a ble cafodd ei gorffori. 

Nid yw pob cwmni sydd wedi'i restru ar wefan Tŷ'r Cwmnïau yn rhoddwr a ganiateir. Efallai na fydd y cwmnïau hyn wedi'u cofrestru o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 neu efallai nad ydynt yn gweithredu yn y DU, neu efallai eu bod wedi'u corffori mewn gwlad arall. Mae'n bwysig eich bod yn fodlon bod eich rhoddwr neu fenthyciwr yn un a ganiateir. Er enghraifft, ni fyddai cwmni sydd wedi’ gorffori mewn gwlad arall ond sydd â changen wedi’i chofrestru a’i gweithredu yn y DU yn un a ganiateir.

Mae'r mathau o gwmnïau sydd wedi'u cofrestru o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 yn cynnwys:

  • Cwmnïau cyfyngedig cyhoeddus
  • Cwmnïau cyfyngedig preifat
  • Cwmnïau anghyfyngedig preifat

Dylid trin cwmnïau a gofrestrwyd yn flaenorol o dan Ddeddf Cwmnïau 1985 neu Orchymyn Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 1986 fel pe baent wedi'u ffurfio a'u cofrestru o dan Ddeddf Cwmnïau 2006.2

Bydd cwmnïau Siarter Brenhinol sydd wedi cofrestru o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 yn ymddangos fel un o'r mathau o gwmnïau a restrir uchod. Efallai bod gan y cwmnïau hyn gofnod arall gyda Thŷ'r Cwmnïau hefyd. Rydym yn argymell eich bod yn gwirio a oes unrhyw gofnodion eraill a allai fod yn gysylltiedig â chwmni Siarter Frenhinol.

Nid yw cwmnïau sydd wedi'u corffori yn Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Gibraltar yn rhai a ganiateir, gan nad ydynt wedi'u corffori yn y DU. 

Sut ydych chi'n gwirio os yw cwmni yn cynnal busnes yn y DU?

Mae'n rhaid i chi fod yn hapus fod y cwmni yn cynnal busnes yn y DU. Gall y busnes fod yn un nid er elw.

Hyd yn oed os oes gennych wybodaeth bersonol uniongyrchol am y cwmni, dylech wirio cofrestr Tŷ'r Cwmnïau i weld os:

  • a yw'r cwmni yn cael ei ddiddymu, yn segur, neu ar fin cael ei ddileu o'r gofrestr
  • mae cyfrifon y cwmni a'r datganiad cadarnhau yn hwyr

Gall cwmni barhau â busnes os yw mewn datodiad, yn segur neu'n hwyr yn ffeilio dogfennau, ond dylech wneud gwiriadau ychwanegol i fod yn fodlon fod hyn yn digwydd.

Ar gyfer unrhyw gwmni, dylech ystyried edrych ar:

  • gwefan y cwmni
  • masnach perthnasol, cyfeirlyfrau ffôn neu wefannau parchus
  • cyfrifon diweddaraf wedi'u ffeilio gyda Thŷ'r Cwmnïau

Os ydych yn dal i fod yn ansicr os yw'r cwmni yn cynnal busnes yn y DU, dylech ofyn am gadarnhad ysgrifenedig o'i weithgareddau busnes gan gyfarwyddwyr y cwmni.

Beth sydd angen i chi ei gofnodi?

Mae’n rhaid i chi gofnodi:

  • yr enw fel y mae'n ymddangos ar y gofrestr 
  • cyfeiriad swyddfa gofrestredig y cwmni 
  • rhif cofrestru’r cwmni2
Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Hydref 2026