| Argraffu'r canllawiau llawn

Bwriad

Efallai nad bwriad eich ymgyrch yw dylanwadu ar bleidleiswyr. Er enghraifft, efallai y byddwch chi’n cynnal ymgyrch gydag un neu fwy o’r bwriadau canlynol: 

  • codi ymwybyddiaeth o broblem
  • dylanwadu ar bleidiau gwleidyddol i fabwysiadu polisi yn eu maniffestos
  • ymgyrchu dros neu yn erbyn deddfwriaeth y llywodraeth
  • darparu gwybodaeth i bleidleiswyr
  • annog pobl i gofrestru i bleidleisio
  • annog pobl i bleidleisio, ond nid dros unrhyw un yn benodol

Mae’n bwysig ystyried sut y byddai person rhesymol yn gweld eich gweithgarwch ac a fyddent yn meddwl mai pwrpas eich ymgyrch yw dylanwadu ar bobl i bleidleisio mewn ffordd benodol mewn etholiad sydd ar ddod. Beth bynnag yw nodau neu fwriadau eich ymgyrch, efallai y byddai person rhesymol yn ei gweld fel un sydd â bwriad gwahanol, neu fwriad pellach.

Hyd yn oed os yw eich bwriad yn rhywbeth arall, bydd eich ymgyrch yn dal i fodloni’r prawf diben os gellir ei hystyried yn rhesymol fel un a fwriadwyd i ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio dros neu yn erbyn plaid wleidyddol, un neu fwy o ymgeiswyr rhestr plaid, neu gategori o ymgeiswyr. 

Er enghraifft, efallai mai eich bwriad yw dylanwadu ar bleidiau gwleidyddol i fabwysiadu polisi. Os ewch ati i wneud hyn drwy nodi a hyrwyddo pleidiau ac ymgeiswyr sydd eisoes wedi mabwysiadu’r polisi, yna bydd hyn yn bodloni’r prawf diben.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Awst 2025