| Argraffu'r canllawiau llawn

Elusennau a sefydliadau sydd â chyfyngiadau ar eu gweithgarwch gwleidyddol

Mae gan rai sefydliadau gyfyngiadau ar eu gweithgarwch gwleidyddol, er enghraifft yn eu cyfansoddiad, neu elusennau sy’n rhwym wrth gyfraith elusennau.

Efallai y bydd y sefydliadau hyn o’r farn, drwy gydymffurfio â’r cyfyngiadau ar wahân hyn, eu bod yn llai tebygol o gynnal gweithgarwch sy’n bodloni’r prawf diben.

Mae hyn am fod y cyfyngiadau yn golygu bod llawer o’r mathau o ymgyrchoedd sy’n bodloni’r prawf diben wedi’u gwahardd ar gyfer y sefydliadau hynny.

Er enghraifft, rhaid i elusennau aros yn annibynnol ar wleidyddiaeth pleidiau ac mae’n rhaid iddynt beidio â chefnogi plaid wleidyddol nac ymgeisydd na chreu canfyddiad o gefnogaeth o ganlyniad i’w gweithredoedd neu eu cyfranogiad.

Os ydych yn elusen ac yn cydymffurfio â chyfraith elusennau a chanllawiau gan y rheoleiddiwr elusennau perthnasol, yn y rhan fwyaf o amgylchiadau mae’n annhebygol y bydd eich gweithgarwch ymgyrchu yn bodloni’r prawf diben. Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr yw’r rheoleiddiwr elusennau yng Nghymru.

Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o hyd o’r rheolau i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau rhag ofn bod eich gweithgarwch yn bodloni’r prawf diben. O dan rai amgylchiadau, gall elusennau gynnal gweithgarwch ymgyrchu a reoleiddir o dan gyfraith etholiadol, ac mae elusennau yn gwneud hynny. 

Mae ein hastudiaethau achos o etholiadau diweddar yn rhoi enghreifftiau o ymgyrchu sy’n seiliedig ar faterion a fydd yn ddefnyddiol wrth gymhwyso’r prawf diben at eich ymgyrchoedd eich hunan.

Os ydych yn cynllunio ymgyrch a’ch bod yn dal yn ansicr ynghylch sut y mae’n cyd-fynd â’r rheolau ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau, cysylltwch â ni a gallwn roi cyngor wedi’i deilwra i chi.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Awst 2025