Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: Etholiadau Senedd Cymru
Beth sy’n digwydd os caiff y polisi rydych chi wedi bod yn ymgyrchu drosto ei fabwysiadu gan blaid wleidyddol?
Gall plaid wleidyddol fabwysiadu’n gyhoeddus polisïau yr ydych eisoes yn ymgyrchu drostynt neu yn eu herbyn.
Os na wnaeth eich ymgyrch fodloni’r prawf diben cyn i’r blaid newid ei safbwynt, mae’n annhebygol y bydd eich ymgyrch arfaethedig yn bodloni’r prawf.
Fodd bynnag, o ganlyniad i’r blaid yn newid ei safbwynt, efallai y byddwch yn gwella neu’n cynyddu eich gwariant ar y mater o’i gymharu â’r hyn a gynlluniwyd gennych yn wreiddiol.
Yn yr achos hwn lle byddwch yn newid eich dull gweithredu, bydd y gwariant ymgyrchu pellach yn cael ei reoleiddio os gellir ei ystyried yn rhesymol fel un a fwriadwyd i hyrwyddo neu feirniadu’r blaid.
Fel arfer, dylech asesu eich ymgyrch gan ddefnyddio’r ffactorau rydyn ni wedi’u nodi.
Er enghraifft, os ydych chi’n croesawu ymrwymiad plaid wleidyddol i bolisi rydych chi wedi ymgyrchu drosto, ac mae’n amlwg y byddech chi’n croesawu ymrwymiad gan unrhyw blaid wleidyddol, ni fydd hyn fel arfer yn bodloni’r prawf diben.
Enghraifft A
Mae sefydliad yn cynnal ymgyrch yn galw ar y llywodraeth a phleidiau gwleidyddol i ymrwymo i rewi rhent i helpu rhentwyr yn ystod argyfwng costau byw. Mae’r ymgyrch wedi bod yn rhedeg am nifer o flynyddoedd.
Yn y cyfnod cyn etholiad y Senedd, mae’r sefydliad yn cynyddu ei wariant fel y cynlluniwyd i ehangu cyrhaeddiad ei ymgyrch. Nid yw cwmpas yr ymgyrch yn newid yn ystod y cyfnod a reoleiddir.
Yn ystod y cyfnod a reoleiddir, mae sawl plaid yn nodi bod costau rhentu cynyddol yn broblem i’r cyhoedd. Mae dwy blaid yn cynnwys addewid i rewi costau rhent i rai rhentwyr yn eu maniffestos, tra bod rhai eraill yn cynnig polisïau cyffredinol ynghylch cynyddu cefnogaeth i rentwyr os cânt eu hethol.
Mae’r sefydliad yn cyhoeddi datganiad yn croesawu cyhoeddiad polisi pob plaid ac yn annog pleidiau eraill i ddilyn eu hesiampl.
Er bod yr ymgyrch yn gadarnhaol ynglŷn â phleidiau sy’n cefnogi rhewi rhent drwy eu canmol am fabwysiadu polisïau, nid yw’r prawf diben yn cael ei fodloni. Mae amseriad yr ymgyrch a’r alwad i weithredu sydd wedi’i hanelu at bleidiau gwleidyddol i newid eu polisïau, yn hytrach na thargedu pleidleiswyr, yn awgrymu na ellir yn rhesymol ystyried bod y gweithgarwch wedi’i fwriadu i ddylanwadu ar bleidleiswyr. Nid yw’r gwariant ar y gweithgarwch yn cael ei reoleiddio.
Enghraifft B
Mae ymgyrchydd wedi bod yn ymgyrchu ar faes polisi ers rhai blynyddoedd. Maen nhw’n cynnal ymgyrch hysbysebu ddigidol ar y mater, sy’n rhedeg yn ystod y cyfnod a reoleiddir ar gyfer etholiad y Senedd. Nid yw’r ymgyrch yn sôn am bleidiau nag ymgeiswyr ac nid yw’n bodloni’r prawf diben.
Yn ystod yr ymgyrch, mae’r blaid lywodraethol yn ymrwymo i ddiddymu ymrwymiad gwariant allweddol yn y maes polisi hwnnw. Mae’r tair wrthblaid fwyaf i gyd yn cadarnhau eu hymrwymiad i’r gwariant, ac mae’r mater yn dod yn un amlwg yn yr etholiad. Mae hyn yn creu cyd-destun gwleidyddol newydd.
Mae’r ymgyrch hysbysebu ddigidol yn parhau drwyddi draw. Gan nad yw’r ymgyrch wedi newid ers iddi gael ei lansio cyn i’r pleidiau fabwysiadu’r mater, nid oes angen cymhwyso’r prawf diben yn y cyd-destun gwleidyddol newydd. Nid yw’r ymgyrch yn bodloni’r prawf o hyd.
Gan ymateb i’r diddordeb cynyddol yn eu mater, mae’r ymgyrchydd yn cynyddu ei ymddangosiadau yn y cyfryngau a’i weithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol. Yn y rhain maent yn canolbwyntio ar fanteision y polisi ac yn annog pob plaid i ailddatgan eu hymrwymiad.
Gan fod hwn yn weithgaredd newydd, mae angen cymhwyso’r prawf diben yn y cyd-destun gwleidyddol newydd. Fodd bynnag, gan fod yr ymgyrch yn parhau i fod yn generig, heb alwad benodol i weithredu gan bleidleiswyr, hyd yn oed yn y cyd-destun newydd ni ellir ei hystyried yn rhesymol fel un sydd wedi’i bwriadu i ddylanwadu ar bleidleiswyr, ac nid yw’r prawf diben yn cael ei fodloni.
Yn nes at yr etholiad, mae’r ymgyrchydd yn cynnal ymgyrch hysbysebu newydd gyda’r slogan ‘Pleidleisiwch i achub yr ymrwymiad’. Yn y cyd-destun gwleidyddol newydd, mae gan y slogan gysylltiad clir â’r etholiad a galwad i weithredu i bleidleiswyr gyda ‘Pleidleisiwch’.Gan fod y mater yn amlwg, byddai person rhesymol yn meddwl bod yr ymgyrchydd yn bwriadu dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio yn erbyn y blaid lywodraethol a thros unrhyw un o’r tair wrthblaid sydd wedi gwneud yr ymrwymiad. Mae gwariant ar yr ymgyrch newydd wedi’i reoleiddio.