Dylech sicrhau bod staff yn cael hyfforddiant a chyfarwyddiadau priodol er mwyn eu galluogi i gyflawni eu dyletswyddau'n effeithiol ac yn unol â'r gyfraith. Dylai'r hyfforddiant gynnwys yr hyn y dylai staff edrych amdano wrth archwilio papurau pleidleisio er mwyn penderfynu beth y dylid ei gynnwys yn y cyfrif.
Dylech friffio pob aelod o'r staff dilysu a chyfrif fel eu bod yn llwyr ymwybodol o'u dyletswyddau a beth a ddisgwylir ganddynt. Dylai pob briff, o leiaf, ymdrin â'r gweithdrefnau sy'n berthnasol i'r rolau.
Gall y prosesau sy'n gysylltiedig â dilysu a chyfrif fod yn gymhleth ac mae'n bosibl y byddwch yn gweld mai'r ffordd orau o hyfforddi uwch-staff yw drwy baratoi proses dilysu a chyfrif 'ffug' ar raddfa fach gydag ychydig gannoedd o bapurau pleidleisio. Bydd hyn yn rhoi'r cyfle i staff fynd drwy'r prosesau dan sylw yn ymarferol, gan gwblhau'r gwaith papur angenrheidiol a gwneud dyfarniadau ynglŷn â'r papurau pleidleisio enghreifftiol. Bydd angen rhai adnoddau er mwyn cyflawni hyn, ond gall fod yn adnodd defnyddiol er mwyn sicrhau bod y broses dilysu a chyfrif yn mynd rhagddi'n ddidrafferth ac ar amser ar y noson.
Cyn dechrau'r prosesau dilysu a chyfrif, dylech gynnal ymarfer cerdded drwy'r gweithdrefnau yr ydych yn disgwyl i bawb eu dilyn fel bod pawb yn ymwybodol o'r hyn a ddisgwylir ganddynt ar bob cam, a sut y mae'r rolau gwahanol yn ymwneud â'i gilydd.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein canllawiau ar egwyddorion prosesau dilysu a chyfrif effeithiol.