Dylech wneud trefniadau i hyfforddi pob aelod o staff anfon ac agor pleidleisiau post mewn perthynas â'r prosesau sy'n gysylltiedig â phob cam. Gellir darparu hyfforddiant yn union cyn dechrau'r prosesau anfon neu agor, ond dylech roi nodiadau cyfarwyddyd iddynt ymlaen llaw.
Fodd bynnag, dylech ystyried hyfforddi staff goruchwylio ddiwrnod neu ddau cyn y sesiwn anfon neu agor fel eu bod yn llwyr ymwybodol o'u dyletswyddau a beth a ddisgwylir ganddynt.
Dylai'r hyfforddiant hwn gynnwys y canlynol:
cynnal y gwiriadau sicrhau ansawdd gofynnol, p'un a ydych yn anfon pleidleisiau post yn fewnol neu'n defnyddio contractwr allanol
sicrhau bod y gweithdrefnau agor a'r broses ddilysu yn cael eu dilyn yn gywir a bod llwybr archwilio yn cael ei gynnal
Dylech roi copi o ganllawiau'r Comisiwn a'r Gwasanaeth Gwyddor Fforensig ar wirio llofnodion i unrhyw un a fydd yn dilysu dynodwyr pleidleisiau post ac sydd wedi cael ei awdurdodi gennych i wneud penderfyniadau ar ddatganiadau pleidleisiau post, a rhoi cyfarwyddyd iddo eu dilyn.
Dylech hefyd ystyried a fyddai unrhyw hyfforddiant ychwanegol o bosibl yn briodol i unrhyw un sy'n ymgymryd â'r rôl hon. Dylech sicrhau bod staff yn cael yr hyfforddiant priodol er mwyn sicrhau yr ymdrinnir ag unrhyw ddata personol yn unol â deddfwriaeth diogelu data.