Hyfforddi staff i dderbyn pleidleisiau post a gyflwynir yn swyddfeydd y cyngor
Dylai'r holl staff sydd wedi'u hawdurdodi i dderbyn pleidleisiau post a gyflwynir i'r Swyddog Canlyniadau dderbyn hyfforddiant i sicrhau bod y prosesau cywir yn cael eu dilyn.
Dylai’r sesiwn hyfforddi roi sylw i: • sut i nodi a yw pleidlais bost ar gyfer etholiad yn yr ardal gywir • y broses ar gyfer derbyn a gwrthod pleidleisiau post a gyflwynwyd â llaw • cwblhau'r ffurflen pleidlais bost yn gywir • llunio'r pecynnau ar wahân ar gyfer pleidleisiau post a dderbyniwyd ac a wrthodwyd a'r ffurflenni pleidleisiau post sy'n cyd-fynd â nhw • storio pecynnau'n ddiogel nes eu bod yn cael eu dosbarthu i'r Swyddog Canlyniadau