Nodi ceisiadau amheus am bleidlais absennol

Er nad oes unrhyw arwyddion pendant o dwyll, dylech sicrhau bod gennych systemau ar waith i nodi ceisiadau amheus am bleidlais absennol. Nid oes rhaid ystyried ceisiadau am bleidleisiau absennol ar eu golwg. Gallwch ofyn am wybodaeth ychwanegol pan fo angen, megis ardystiad, er mwyn cadarnhau pwy yw ymgeisydd.

Gan ddibynnu ar gyd-destun yr ardal leol ac amgylchiadau penodol unrhyw gais neu geisiadau, gallai'r canlynol fod yn arwyddion o dwyll posibl: 

  • nifer o ffurflenni cais a gwblheir yn yr un llawysgrifen.
  • nifer anarferol o fawr o geisiadau am bleidlais absennol mewn ardal benodol
  • nifer anarferol o fawr o geisiadau i ailgyfeirio pleidleisiau post a phleidleisiau dirprwy drwy'r post i un eiddo neu sawl eiddo penodol
  • nifer anarferol o fawr o ardystiadau ar gyfer pleidleisiau drwy ddirprwy
  • nifer anarferol o fawr o geisiadau am hepgoriad llofnod. Er enghraifft:
    • nifer mawr o geisiadau wedi'u cynorthwyo neu eu llofnodi gan un unigolyn heb unrhyw                   esboniad credadwy
    • nifer mawr o geisiadau o un stryd neu ardal heb unrhyw esboniad credadwy
  • y llofnod a/neu'r dyddiad geni a ddarparwyd ar y ffurflen gais yn anghyson â data sydd eisoes gennych
  • cydnabyddiaethau neu hysbysiadau cadarnhau yn cael eu dychwelyd heb eu dosbarthu.


Dylech sicrhau bod systemau ar waith gennych a fydd yn helpu i nodi ceisiadau amheus am bleidlais absennol gan gynnwys:

  • hyfforddiant i staff swyddfa ar yr hyn y dylid cadw llygad allan amdano
  • adolygiadau data rheolaidd er mwyn nodi patrymau
  • ystyried sut i rannu data am batrymau ceisiadau â phleidiau gwleidyddol a chynrychiolwyr etholedig lleol er mwyn gwella tryloywder a hyder, ac fel y gallant helpu i nodi unrhyw geisiadau a allai fod yn amheus.
     

Mae ein canllawiau ar nodi ceisiadau amheus i gofrestru yn cynnwys mwy o wybodaeth am gydgysylltu â'ch Pwynt Cyswllt Unigol yn yr heddlu lleol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Rhagfyr 2023