Bydd honiadau ac achosion o dwyll etholiadol nid yn unig yn cael effaith negyddol ar hyder etholwyr ac ymgyrchwyr, ond gallant hefyd gael effaith sylweddol ar eich gallu i reoli'r broses etholiadol yn effeithiol.
Ar ôl i chi roi eich cynlluniau ar waith ar gyfer monitro a sicrhau uniondeb yr etholiad yn eich ardal, mae'n bwysig eich bod yn cynnig cyngor clir i ymgeiswyr, asiantiaid ac etholwyr ar sut i wneud honiadau er mwyn sicrhau y cânt eu rheoli mewn ffordd effeithiol a chyson.
Dylech sicrhau bod pob ymgeisydd ac asiant yn deall y canlynol:
sut i godi pryderon penodol am achosion o dwyll etholiadol sy'n ymwneud â'r etholiad
pa fath o dystiolaeth a pha lefel o dystiolaeth y bydd ei hangen er mwyn i'r heddlu allu ymchwilio i honiadau
sut yr ymdrinnir â honiadau
pa wybodaeth ac adborth y dylent allu disgwyl eu cael ynghylch hynt unrhyw ymchwiliadau
Bydd yr heddlu yn ymchwilio i unrhyw honiadau o dwyll etholiadol hyd nes y bydd wedi'i fodloni, ar ôl ymgynghori â Gwasanaeth Erlyn y Goron, nad oes angen cymryd camau pellach neu nad yw'n briodol gwneud hynny, neu y bydd yn trosglwyddo ffeil yr achos i Wasanaeth Erlyn y Goron i'w erbyn. Dylai'r heddlu roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am hynt yr achos.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol, oherwydd natur unigryw'r etholiadau ar gyfer Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, y gall fod amgylchiadau pan fydd yr heddlu yn penderfynu y byddai'n briodol gofyn i heddlu arall ymchwilio i honiadau o dwyll neu gamymddwyn etholiadol sy'n ymwneud â'r etholiadau hyn. O dan amgylchiadau o'r fath, dylech sicrhau eich bod yn cysylltu â'r swyddog arweiniol perthnasol o'r heddlu sy'n arwain yr ymchwiliad mor fuan â phosibl.