| Argraffu'r canllawiau llawn

Hyfforddi staff i dderbyn pleidleisiau post a gyflwynir yn swyddfeydd y cyngor

Dylai'r holl staff sydd wedi'u hawdurdodi i dderbyn pleidleisiau post a gyflwynir i'r Swyddog Canlyniadau Lleol dderbyn hyfforddiant i sicrhau bod y prosesau cywir yn cael eu dilyn.

Dylai’r sesiwn hyfforddi roi sylw i:

•    sut i nodi a yw pleidlais bost ar gyfer etholiad yn yr ardal gywir
•    y broses ar gyfer derbyn a gwrthod pleidleisiau post a gyflwynwyd â llaw
•    cwblhau'r ffurflen pleidlais bost yn gywir
•    llunio'r pecynnau ar wahân ar gyfer pleidleisiau post a dderbyniwyd ac a wrthodwyd a'r ffurflenni pleidleisiau post sy'n cyd-fynd â nhw
•    storio pecynnau'n ddiogel nes eu bod yn cael eu dosbarthu i'r Swyddog Canlyniadau Lleol

Mae rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar y weithdrefn i'w dilyn pan fydd pleidleisiau post yn cael eu cyflwyno i'r Swyddog Canlyniadau Lleol yn swyddfeydd y cyngor.

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Chwefror 2024