Mae gwirio dyddiad geni'n rhan o'r broses dilysu ceisiadau.
Os nad ydych yn fodlon ynghylch oedran unrhyw ymgeisydd neu etholwr, mae gennych y pŵer i'w gwneud yn ofynnol i'r ymgeisydd neu'r etholwr roi tystiolaeth ddogfennol i chi sy'n cadarnhau ei ddyddiad geni.1
Gallwch ofyn am y dystiolaeth ganlynol a fydd yn eich helpu i benderfynu p'un a yw unigolyn yn bodloni'r maen prawf oedran neu beidio:2
tystysgrif geni
tystysgrif dinasyddio
dogfen sy'n dangos bod unigolyn wedi dod yn ddinesydd un o wledydd eraill y Gymanwlad (er na fydd hon, mewn rhai achosion, yn cynnwys dyddiad geni)
Os nad yw'r unigolyn yn gwybod ei ddyddiad geni, mae dogfennau penodol y gallwch ei gwneud yn ofynnol iddo eu cyflwyno i chi o dan y broses eithriadau. Mae gennych y pŵer hefyd i ofyn am dystiolaeth ychwanegol er mwyn cadarnhau pwy yw ymgeisydd.