Cyswllt uniongyrchol â phreswylwyr

Cyswllt uniongyrchol â phreswylwyr

Mae cyswllt uniongyrchol yn elfen bwysig o'ch strategaeth ymgysylltu â'r cyhoedd a dylech hyrwyddo'r sianeli y gall preswylwyr eu defnyddio i gysylltu â chi gan gynnwys:

  • llythyrau
  • sgyrsiau dros y ffôn
  • negeseuon testun
  • negeseuon e-bost
  • ymweliadau o ddrws i ddrws
  • sianeli cyfryngau cymdeithasol

Bydd eich profiadau yn ystod y canfasiad diwethaf a'ch gwaith cofrestru ehangach parhaus wedi rhoi syniad da i chi o'r ardaloedd hynny sy'n ymateb yn gyflym i ohebiaeth ysgrifenedig a'r rhai hynny lle y mae'n fwy tebygol y bydd angen i chi gynnal ymweliadau personol. Gallwch ddefnyddio'r wybodaeth hon i lywio eich cynlluniau ar gyfer y canfasiad. Er enghraifft, mewn ardaloedd nad ydynt yn ymateb yn dda i ohebiaeth ysgrifenedig, gall fod yn well defnyddio adnoddau i gynnal ymweliadau personol yn gynharach yn y broses o gymharu ag ardaloedd eraill.
 
Mae'n rhaid i unrhyw lythyr a negeseuon e-bost a anfonir gennych fod yn hawdd eu deall a dylent gynnwys negeseuon clir am yr hyn y mae angen i'r derbynnydd ei wneud a sut y gallant wneud hynny.  
Dylech ddefnyddio'r geiriad enghreifftiol a ddarperir gan y Comisiwn yn ei ganllawiau ar ffurflenni a llythyrau sy'n adlewyrchu canlyniadau profion defnyddwyr.
 
Gallwch wahodd pobl i gofrestru drwy ddulliau electronig, gan gynnwys e-bost. Mae hyn yn golygu, yn hytrach nag anfon gwahoddiad i ddarpar etholwyr gofrestru gyda ffurflen cofrestru i bleidleisio ac amlen ddychwelyd, gallwch (lle y bydd gennych gyfeiriad e-bost etholwyr) eu hannog i gofrestru ar-lein drwy anfon gwahoddiad i gofrestru atynt dros e-bost gyda dolen i www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.

Dylai'r opsiwn hwn gael ei adlewyrchu yn eich strategaeth a'ch cynllun cofrestru ehangach. 

Ar gyfer eich strategaeth ymgysylltu â'r cyhoedd a'ch cynllun cofrestru, bydd angen i chi fod wedi sefydlu proses ymarferol ar gyfer ysgrifennu at breswylwyr ar gyfer y canfasiad, gan gynnwys amseriadau. Bydd angen i chi hefyd ystyried amseriadau ar gyfer eich gweithgarwch ymgysylltu â'r cyhoedd sy'n cefnogi'r canfasiad, a ddylai gynnwys unrhyw gyfleoedd posibl i gysylltu ag unrhyw weithgarwch cofrestru pleidleiswyr cenedlaethol neu leol ehangach. 

Er enghraifft, un cyfle o'r fath yw'r Wythnos Democratiaeth Genedlaethol, sy'n anelu at sicrhau cynnydd yn nifer y bobl sy'n deall y broses ddemocrataidd ac yn cymryd rhan ynddi. Yn dibynnu ar pryd y byddwch yn dosbarthu gohebiaeth ganfasio, efallai y gallwch fanteisio ar hyn a'r cyhoeddusrwydd cenedlaethol ategol i lywio ymatebion i'r canfasiad a chodi ymwybyddiaeth ymhlith grwpiau lle na cheir lefelau cofrestru digonol. 

Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein cynlluniau ar gyfer yr Wythnos Ddemocratiaeth Genedlaethol drwy ein Bwletin Gweinyddiaeth Etholiadol. Dylech hefyd sicrhau eich bod wedi tanysgrifio i'n cylchlythyr Y Gofrestr sy'n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am hyrwyddo gwaith cofrestru pleidleiswyr a'n gwaith partneriaeth.  

Mae'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leolwedi wedi darparu adnoddau y gallwch eu defnyddio i hyrwyddo gweithgareddau cofrestru a gynlluniwyd gennych ar gyfer y flwyddyn hon. Mae'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol yn darparu adnoddau i ysgolion uwchradd ac mae Pecyn Cymorth Ymgysylltu â Phobl Ifanc ar gael i Aelodau Seneddol ei ddefnyddio gyda phobl ifanc yn eu hardaloedd. 

 

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Medi 2024