Defnyddio hysbysebion a'r cyfryngau i godi ymwybyddiaeth

Defnyddio hysbysebion a'r cyfryngau i godi ymwybyddiaeth 

Mae gweithgarwch sy'n codi ymwybyddiaeth y cyhoedd, fel hysbysebion a gwaith gyda'r cyfryngau, yn rhan bwysig o ymgysylltu â'r cyhoedd. Fel Swyddog Cofrestru Etholiadol, mae gennych ddyletswydd gyffredinol i hyrwyddo cyfranogiad a bydd angen i chi ymgymryd â'ch gwaith hysbysebu eich hun i'r graddau y bo hynny'n bosibl. 

Dylai eich strategaeth ymgysylltu â'r cyhoedd sicrhau bod unrhyw weithgarwch sy'n codi ymwybyddiaeth y cyhoedd yn cael ei gydgysylltu fel ei fod yn digwydd ar adegau allweddol yn ystod y canfasiad ac yn y cyfnod cyn etholiadau arfaethedig. Dylai hefyd nodi unrhyw ddefnydd arfaethedig o'r canlynol: 

  • cylchlythyrau'r awdurdod lleol
  • gwefan
  • arosfannau bysiau
  • safleoedd posteri neu hysbysfyrddau
  • cyfryngau cymdeithasol
  • adnoddau cysylltiadau â'r cyfryngau
     
Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2021