Sut y dylai etholwyr tramor gael eu rhestru ar y gofrestr?
Dylai etholwyr tramor gael eu rhestru fel etholwyr eraill ar ddiwedd pob rhan berthnasol o'r gofrestr a rhaid dangos y cofnodion heb gyfeiriad. Dylid eu dosbarthu yn nhrefn yr wyddor ynghyd ag unrhyw bleidleiswyr yn y lluoedd arfog a phobl a gofrestrwyd drwy ddatganiad o gysylltiad lleol. Rhaid rhoi'r llythyren F cyn enw pob etholwr tramor.
Rhaid i chi baratoi a chadw rhestr ar wahân o enwau etholwyr tramor. Rhaid i'r enwau gael eu rhestru yn nhrefn yr wyddor.1
Rhaid i'r rhestr gynnwys cyfeiriad cymhwyso'r etholwr a'i gyfeiriad gohebu presennol.2
Yn achos etholwyr tramor dienw, dim ond eu rhif etholwr a ddylai ymddangos ar y rhestr ynghyd â'r dyddiad y daw eu hawl i gael cofrestriad dienw i ben.3
Rhaid i rifau etholwyr etholwyr tramor dienw gael eu hargraffu ar ôl y rhestr o enwau etholwyr tramor cyffredin sy'n ymddangos yn nhrefn yr wyddor.
Rhaid sicrhau bod y rhestr etholwyr tramor ar gael i'w harolygu (o dan oruchwyliaeth) ar yr un pryd ag y caiff fersiwn ddiwygiedig o'r gofrestr ei chyhoeddi.4
1. Rheoliad 45(2), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 (Cymru a Lloegr) (fel y'u diwygiwyd) ↩ Back to content at footnote 1