mae’n cynnwys gwybodaeth sy’n golygu na all fod yn llwyddiannus - er enghraifft, nid yw’n ymgeisydd yn gymwys, neu
nad oes digon o wybodaeth yn y cais i’w ganiatáu ar ôl i chi gymryd yr holl gamau angenrheidiol i’w chaffael - er enghraifft, mae’r cais yn anghyflawn, neu mae yna wybodaeth goll, neu
na all hunaniaeth yr ymgeisydd gael ei dilysu
Os byddwch yn penderfynu na all cais i gofrestru gael ei ganiatáu, rhaid i chi anfon hysbysiad at yr ymgeisydd sy’n datgan, yn eich barn chi, na all y cais gael ei ganiatáu oherwydd: 1
mae manylion y cais yn gyfryw fel nad ydynt yn rhoi hawl i’r ymgeisydd gofrestru, neu
mae’r mater wedi ei gloi gan benderfyniad llys
Os nad ydych wedi caniatáu cais, rhaid i chi hefyd roi cyfle i’r ymgeisydd ofyn am wrandawiad.
Rhaid i chi roi gwybod i’r ymgeisydd y gallai’r cais gael ei wrthod oni dderbynnir hysbysiad ganddynt o fewn tri diwrnod gwaith yn gofyn am wrandawiad.
Os na fyddwch yn derbyn cais am wrandawiad, gallwch wrthod y cais ac nid oes angen camau pellach.2
Os derbyniwch cais, rhaid cynnal gwrandawiad. Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch y broses hon yn ein canllawiau ar wrandawiadau.