Cynnal cofrestru etholiadol - Cymru
Beth gallaf ei wneud os ydw i’n ansicr ynghylch y wybodaeth mewn cais?
Beth gallaf ei wneud os ydw i’n ansicr ynghylch y wybodaeth mewn cais?
Gall fod gennych reswm dros amau dilysrwydd y wybodaeth a ddarparwyd yn y cais neu unrhyw dystiolaeth ddogfennol a ddarparwyd i ategu’r cais.
Nid oes rhaid i chi dderbyn cais ar ei olwg cyntaf.
Gallwch wneud y canlynol:
- gofyn i’r ymgeisydd am dystiolaeth ychwanegol, os barnwch ei bod yn angenrheidiol i wirio eu hunaniaeth neu wneud penderfyniad parthed hawl ymgeisydd i gofrestru1
- mynd â chais i wrandawiad
Gofyn i’r ymgeisydd am dystiolaeth ychwanegol
Mae’r mathau o dystiolaeth y gallech ofyn amdanynt yn cynnwys:
- i ddilysu hunaniaeth:2
- dogfennau megis pasbort, cerdyn adnabod, trwydded yrru â llun
- ceir enghreifftiau pellach yn ein canllawiau ar gyfer prosesau dilysu, eithrio, ac ardystio
- i ddilysu oedran a chenedligrwydd:3
- tystysgrif geni
- tystysgrif brodori
- tystysgrif dinasyddiaeth
- datganiad statudol
- i ddilysu preswyliaeth:4
- tystiolaeth i’ch bodloni bod yr ymgeisydd yn preswylio yn y cyfeiriad cymwys ar y dyddiad perthnasol
Os ydych yn amau p’un a yw etholwr yn breswylydd cyfreithiol ai peidio, dylech ofyn am wiriadau o’i statws mewnfudo yn erbyn cofnodion y Swyddfa Gartref.
Mae’r ffaith y gallech ofyn am wiriadau o statws mewnfudo rhywun yn erbyn cofnodion y Llywodraeth wedi ei chynnwys ar y ffurflen gais i gofrestru.
Mae canllawiau pellach ynghylch y broses hon, a manylion cyswllt, ar gael trwy gysylltu â’r Swyddfa Gartref: [email protected] Bydd gofyn i chi gwblhau templed a fydd yn cael ei ddarparu - cwblhewch a dychwelyd yr adran isod o dan y pennawd ‘Subject 1’ i’r un cyfeiriad e-bost. Mae’r Swyddfa Gartref wedi gofyn am un templed i bob pwnc a phob e-bost, a bod ER yn cael ei ychwanegu i’r pennawd testun ar gyfer pob e-bost i sicrhau ei fod yn mynd i’r ffolder cywir ar gyfer ymatebion. Bydd y Swyddfa Gartref yn ymateb o fewn pum diwrnod gwaith oni bai bod gofyn am ffeil; yn yr achos hwnnw, bydd yn ymateb o fewn deng niwrnod gwaith.
Categorïau data arbennig
Rhaid i ymgeiswyr ddarparu eu cenedligrwydd, neu, os na allant wneud hynny, y rheswm dros eu methiant. O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae data cenedligrwydd yn cael ei drin fel categori data personol arbennig am y gallai ddatgelu hil neu ethnigrwydd unigolyn.
Er mwyn prosesu data cenedligrwydd, bydd rhaid i chi fod â dogfen bolisi ar waith i ganiatáu i chi, fel rheolydd data, brosesu categorïau data personol arbennig. Bydd rhaid i’r ddogfen hon adlewyrchu eich gweithdrefnau prosesu lleol ar gyfer cydymffurfio ag egwyddorion diogelu data a’ch polisïau ar gyfer cadw a dileu data personol. Rhaid cadw’r rhain am chwe mis wedi i’r prosesu ddod i ben. Dylai’r ddogfen hon gael ei hadolygu a’i diweddaru ar adegau priodol, a dylai fod ar gael i’r ICO ar gais.
Mae ein canllawiau diogelu data i Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn cynnwys gwybodaeth bellach am gategorïau data arbennig a’r angen am ddogfen bolisi.
Mynd â chais i wrandawiad
Os na allwch fwrw heibio’r amheuon hyn trwy’r broses dilysu hunaniaeth yr ymgeisydd neu unrhyw ohebiaeth bellach gyda’r darpar-etholwr, gan gynnwys cyflenwi unrhyw dystiolaeth a gafwyd yn unol â’ch pŵer i ofyn am dystiolaeth o oedran a chenedligrwydd, dylech fynd i wrandawiad.
Gallai gwrandawiadau hefyd fod yn ofynnol gan berson sy’n gwrthwynebu cais, neu gan ymgeisydd sy’n derbyn hysbysiad i’r perwyl y bydd eu cais yn cal ei wrthod.5
Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch y broses hon yn ein canllawiau ar wrandawiadau.
- 1. Rheoliad 26B(1) RPR 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 26B (2) RPR 2001 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliad 24 RPR 2001 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheoliad 26B (1) RPR 2001 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Rheoliadau 29(5C) a (7) RPR 2001 ↩ Back to content at footnote 5