Dylech bennu hawl rhywun cyn gynted ag y bo’n ymarferol. Os yw’n bosib, dylech wneud eich penderfyniad erbyn y dyddiad cau perthnasol ar gyfer diweddariad nesaf y gofrestr. Bydd hwn naill ai’n hysbysiad newid etholiad, neu gyhoeddiad y gofrestr ddiwygiedig.
Bydd gwneud penderfyniad yn gyflym yn sicrhau bod y gofrestr yn cael ei chadw mor gyfredol â phosib.
Os byddwch yn penderfynu bod person â hawl i gofrestru, rhaid i’r cais gael ei restru, a rhaid iddo fod ar gael at berwyl gwrthwynebiadau am bum diwrnod gwaith. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar y broses wrthwynebu.
Dylech beidio â rhestru unrhyw geisiadau gyda chais i gofrestru’n ddienw. Mae hyn oherwydd ni cheir gwrthwynebu cais i gofrestru’n ddi-enw.1
Felly gallwch ganiatáu cais i gofrestru’n ddienw cyn gynted ag y byddwch wedi penderfynu bod y cais yn bodloni’r holl ofynion cofrestru.
Er bod ceisiadau gan bobl dan 16 oed yn cael eu cynnwys ar y rhestr ceisiadau cofrestru, ni ddylent gael eu rhoi ar y rhestr ceisiadau sy’n agored i’r cyhoedd ei harchwilio.2
Gallwch bennu’r cais ar y chweched diwrnod gwaith ar ôl i’r cais gael ei roi ar y rhestr ceisiadau.
Beth sy’n digwydd ar ôl y cyfnod gwrthwynebu pum diwrnod?
Ar ôl i bum diwrnod gwaith clir basio wedi’r diwrnod y cafodd y cais ei restru, ac os na chaed unrhyw wrthwynebiadau, gallwch bennu/caniatáu’r cais heb wrandawiad.
Os caed gwrthwynebiad, rhaid i chi ei ystyried cyn pennu/caniatáu’r cais.
Os byddwch yn penderfynu nad oes rhinwedd i’r gwrthwynebiad, gallwch bennu/caniatáu’r cais.3
Os byddwch yn penderfynu nad oes gan y gwrthwynebydd hawl i wrthwynebu, gallwch wrthod y gwrthwynebiad.4
Rhaid i chi hysbysu’r gwrthwynebydd eich bod wedi gwrthod eu gwrthwynebiad. Fel arall, ni phennir y cais ochr yn ochr â phennu’r gwrthwynebiad.
Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch y broses hon yn ein canllawiau ar wrthwynebiadau.
Os rhaid cydnabod ceisiadau i gofrestru i bleidleisio?
Nid oes gofyniad cyfreithiol i gais gael ei gydnabod. Fodd bynnag, mae gennych ryddid i anfon cydnabyddiaeth. Ym mhob achos, mae’n ofynnol i chi anfon cadarnhad os yw’r cais yn llwyddiannus.