Un agwedd ar yr hawl i gofrestru yw bod rhaid i'r cais gael ei gyflwyno gan unigolyn sy'n cyfateb, yn ôl pob golwg, i'r unigolyn a enwir ar y cais.1
Rhaid i unrhyw un sy'n gwneud cais newydd i gofrestru gyflwyno dynodyddion personol a gaiff eu defnyddio i gadarnhau pwy yw'r ymgeisydd gan ddefnyddio cofnodion yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Os na ellir cadarnhau pwy yw'r ymgeisydd gan ddefnyddio cofnodion yr Adran Gwaith a Phensiynau, gellir paru ei ddynodyddion â ffynonellau data lleol hefyd. Rhaid ystyried canlyniadau'r gwiriadau hyn wrth benderfynu ar y cais.2
Ni waeth pryd y daw cais i gofrestru i law, rhaid i chi anfon y wybodaeth berthnasol i'w pharu â data'r Adran Gwaith a Phensiynau ac ystyried y canlyniadau wrth benderfynu a ddylid caniatáu'r cais.
Ni chaiff ceisiadau gan bobl ifanc 14 neu 15 oed eu hanfon i'w dilysu yn erbyn cofnodion yr Adran Gwaith a Phensiynau.3
Yn lle hynny, bydd angen i chi gadarnhau pwy yw'r ymgeisydd gan ddefnyddio cofnodion addysg neu ddata lleol eraill sy'n cyrraedd y safonau gofynnol.
Os byddwch yn dal i fethu cadarnhau pwy yw'r ymgeisydd gan ddefnyddio cofnodion addysg neu ddata lleol eraill, dylech ddilyn y broses eithriadau.