Mae’n rhaid i chi bennu ceisiadau i’w cofrestru yn ôl p’un a yw’r ymgeisydd yn bodloni’r gofynion ar gyfer cofrestru, a ph’un a ydynt wedi eu hanghymhwyso ai peidio rhag cofrestru ar y ‘dyddiad perthnasol’.1
Mae’r dyddiad perthnasol yn amrywio, yn ddibynnol ar y sut y gwnaed y cais.
Ar gyfer cais ar ffurflen bapur, dyma fydd y dyddiad y gwnaed y cais,2
hynny yw, pan gwblhawyd y ffurflen, gan gynnwys yr holl wybodaeth ofynnol, gan yr ymgeisydd.
Ar gyfer ceisiadau ar-lein, dyma fydd y dyddiad y mae Gwasanaeth Digidol IER yn ei nodi; bydd y stamp dyddiad electronig yn cael ei gynnwys yn y wybodaeth a anfonir atoch.
Ar gyfer ceisiadau ffôn a cheisiadau personol, sydd wedi eu caniatáu fel y gwelwch yn dda, dyma fydd yr amser y cafodd yr holl wybodaeth angenrheidiol ar gyfer cwblhau’r cais ei chofnodi, a bwrw bod yr ymgeisydd wedi datgan bod y wybodaeth yn wir.
Beth bynnag y bo’r dyddiad perthnasol ar ffurflen bapur, dylech fod wedi derbyn y cais i gofrestru erbyn y dyddiad cau priodol er mwyn iddo gael ei gynnwys yn y diweddariad nesaf i’r gofrestr.