Pennu ceisiadau i gofrestru

Pennu ceisiadau i gofrestru

Pan fyddwch yn derbyn cais, rhaid i chi benderfynu p’un a oes hawl gan yr ymgeisydd gofrestru ar y dyddiad perthnasol. Gelwir hyn yn bennu cais.  

Rhaid i’ch penderfyniad parthed hawl ymgeisydd i gofrestru fod wedi ei seilio ar y canlynol. 

Ydych yn fodlon:

  • bod y cais wedi ei wneud gan y person a enwir ar y cais?
  • bod y cais yn cynnwys yr holl ofynion statudol?1  
  • bod yr ymgeisydd yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer cofrestru, ac nad yw wedi ei anghymhwyso?

Dylech wneud penderfyniad parthed hawl ymgeisydd i gofrestru cyn gynted ag y gallwch wedi derbyn y cais.

Gellir cael hyd i ragor o wybodaeth ynghylch y gofynion statudol yn ein canllawiau ar sut gall unigolion gofrestru i bleidleisio, ac etholwyr categori arbennig.

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2021