| Argraffu'r canllawiau llawn

Gweithio gyda'ch swyddog pwynt cyswllt unigol

Mae gan bob heddlu yn y DU swyddog Pwynt Cyswllt Unigol penodol ar gyfer troseddau sy'n gysylltiedig ag etholiadau, ac Ymgynghorydd Swyddogol Etholedig yr heddlu, a nodir isod.

Swyddog pwynt cyswllt unigol

Bydd Pwynt Cyswllt Unigol yr heddlu lleol ar gyfer etholiadau yn bartner allweddol i'ch helpu i sicrhau bod unrhyw broblemau uniondeb posibl yn cael eu nodi a'u datrys yn gyflym.

Dylech gysylltu â'ch Pwynt Cyswllt Unigol penodol ar gyfer etholiadau ar ddechrau'r broses o gynllunio'r etholiad. Ar ôl cysylltu am y tro cyntaf, dylech barhau â'r cyswllt hwn drwy gydol cyfnod yr etholiad. Os cewch unrhyw broblemau wrth sefydlu cyswllt â'r Pwynt Cyswllt Unigol ar gyfer etholiadau, cysylltwch â thîm lleol y Comisiwn.

Dylai eich trafodaethau gynnwys eich cynlluniau ar gyfer sicrhau uniondeb yr etholiad a'ch systemau ar gyfer nodi problemau posibl a pha gamau y dylid eu cymryd os bydd unrhyw amheuon.  

Mae rhestr wirio o bynciau y dylech eu hystyried mewn unrhyw gyfarfod cynllunio cyn etholiad rhyngoch chi a'ch SPOC ar gael i gefnogi eich trafodaethau. 

Dylech gytuno â'ch Pwynt Cyswllt Unigol ar gyfer etholiadau ar ddull o gyfeirio honiadau o dwyll a fydd o bosibl yn dod i law er mwyn gallu ymchwilio ymhellach iddynt lle y bo'n briodol. Er enghraifft, ai chi fydd y pwynt cyswllt cychwynnol a fydd yn cyfeirio honiadau at y Pwynt Cyswllt Unigol ar gyfer etholiadau, neu ai'r Pwynt Cyswllt Unigol fydd y pwynt cyswllt cychwynnol a fydd yn rhoi gwybod i chi am honiadau? 

Dylech hefyd gytuno ar system ar gyfer trin tystiolaeth fel y gall yr heddlu wneud unrhyw waith dadansoddi fforensig, lle bo angen. Mae'r Coleg Plismona Arfer Proffesiynol Awdurdodedig wedi darparu canllawiau i awdurdodau lleol ar gyfer ymdrin â thystiolaeth.

Ymgynghorydd Etholedig Swyddogol yr Heddlu

Mae ymgynghorydd etholedig swyddogol eich heddlu lleol yn gyswllt heddlu penodedig ar gyfer codi pryderon a darparu briffiau diogelwch ynghylch materion sy'n ymwneud ag unrhyw swyddogion etholedig ac ymgeiswyr ar gyfer y rolau hynny. Nid Ymgynghorydd Etholedig Swyddogol yr Heddlu yw'r pwynt cyswllt priodol i adrodd am ddigwyddiadau iddo.

Bydd ymgynghorwyr etholedig swyddogol eisiau mynd at bob ymgeisydd er mwyn cyflwyno briff diogelwch safonol a chanllawiau diogelwch wedi’u diweddaru. Dylech wneud trefniadau i rannu manylion cyswllt ymgeiswyr lle bo modd (fel cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn) gyda'ch ymgynghorydd etholedig swyddogol fel y gall gysylltu â nhw'n uniongyrchol. Bydd angen i chi weithio gyda’ch tîm diogelu data ar eich dull gweithredu arfaethedig a sicrhau bod gennych y prosesau a’r mesurau diogelu data cywir yn eu lle, gan gynnwys sut y byddwch yn gwneud ymgeiswyr yn ymwybodol o sut y bydd eu data’n cael ei ddefnyddio a sut y gallant optio allan o hyn os ydynt yn dewis gwneud hynny. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu data.

Gwneud cynlluniau gyda'ch heddlu lleol

Dylech gymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau y gall swyddogion yr heddlu (a all, yng Nghymru a Lloegr, gynnwys swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu bellach) fynd i orsafoedd pleidleisio neu alw i mewn yn ystod y diwrnod pleidleisio, fel y bo'n briodol, a thrafod unrhyw faterion diogelwch sy'n ymwneud ag unrhyw agwedd arall ar y broses gan gynnwys diogelwch cymunedol y pleidleiswyr.

Mae'n bosibl y byddwch hefyd yn penderfynu cynnal gwaith cyhoeddusrwydd ar y cyd â'r heddlu i gefnogi eich gwaith wrth sicrhau uniondeb yr etholiad. Er enghraifft, gallech gydweithio i gynnal ymgyrchoedd ymwybyddiaeth y cyhoedd yn yr ardal etholiadol er mwyn nodi beth y gellir ei wneud i helpu i ganfod achosion o dwyll etholiadol a'u hatal. 

Yng Nghymru a Lloegr, mae templed o femorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng y Swyddog Canlyniadau a'r heddlu ar gyd-gynllunio etholiadau a'r broses ar gyfer rhoi gwybod am achosion o gamymddwyn etholiadol ac ymchwilio iddynt ar gael ar wefan y Coleg Plismona Arfer Proffesiynol Awdurdodedig.

Mae Heddlu'r Alban wedi darparu canllawiau i Swyddogion yr Heddlu ar atal a chanfod twyll etholiadol yn yr Alban.

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Tachwedd 2025