Ymgyrchu dros fater

Ymgyrchoedd sy'n cyfeirio at bleidiau gwleidyddol neu ymgeiswyr

Ym mhob achos bron, bydd gweithgaredd yn bodloni'r prawf diben os yw'n:

  • hyrwyddo pleidiau gwleidyddol neu ymgeiswyr sy'n cefnogi nodau eich ymgyrch yn benodol
  • hyrwyddo rhai pleidiau neu ymgeiswyr dros rai eraill yn anuniongyrchol, er enghraifft drwy bennu neu gymharu rhinweddau safbwyntiau pleidiau gwleidyddol neu ymgeiswyr ar bolisi

Ymgyrchoedd nad ydynt yn cyfeirio at bleidiau gwleidyddol nac ymgeiswyr

Os nad yw eich ymgyrch yn cyfeirio at ymgeiswyr, pleidiau nac etholiadau, yna mae'n llai tebygol y caiff eich gwariant ei reoleiddio. Mae hyn am fod cydbwysedd ffactorau eich gweithgarwch – yn benodol ‘galwad i weithredu wedi'i hanelu at bleidleiswyr’ a ‘thôn’ – yn llai tebygol o fodloni'r prawf diben.

Er mwyn sicrhau bod gweithgarwch yn bodloni'r prawf, mae angen i'r pleidleisiwr wybod pa ffordd y mae'n cael ei ddylanwadu i bleidleisio.

Fodd bynnag, efallai y bydd eich ymgyrch yn nodi plaid wleidyddol, pleidiau neu grŵp ymgeiswyr yn anuniongyrchol, heb eu henwi. Gallai hyn ddigwydd os yw polisi neu fater sydd â chysylltiad agos a chyhoeddus â phlaid, pleidiau neu gategori o ymgeiswyr sydd, i bob pwrpas, yn adlewyrchu'r rheini yn eich ymgyrch. 

Yn yr achos hwn, bydd eich ymgyrch yn bodloni'r prawf diben os, ar ôl asesu pob un o'r ffactorau, gellir ystyried yn rhesymol mai bwriad eich gweithgarwch ymgyrchu ar y polisi yw dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio dros neu yn erbyn y pleidiau gwleidyddol neu'r ymgeiswyr hynny.

Mae hyn oherwydd y gall polisïau penodol fod yn fwy tebygol na materion cyffredinol o fod â chysylltiad agos â phleidiau neu ymgeiswyr.
 

Enghraifft: ‘Gofal cymdeithasol’ a'r ‘dreth ddementia’ yn etholiad cyffredinol Senedd y DU yn 2017

Enghraifft: ‘Gofal cymdeithasol’ a'r ‘dreth ddementia’ yn etholiad cyffredinol Senedd y DU yn 2017 

‘Gofal cymdeithasol’ oedd un o'r materion amlwg ar y pryd, ond roedd gan y pleidiau mwyaf amlwg amrywiaeth o bolisïau a safbwyntiau arno. Nid oedd gan y mater cyffredinol gysylltiad agos na chyhoeddus ag unrhyw blaid na chategori o ymgeiswyr. Mae'n annhebygol y byddai ymgyrch ar ofal cymdeithasol wedi bodloni'r prawf diben oni bai ei fod yn cyfeirio'n benodol at bleidiau neu ymgeiswyr.

Roedd y ‘dreth ddementia’ yn un o bolisïau penodol clir ac amlwg y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol yn yr etholiad, a gyhoeddwyd fel rhan o'u maniffesto yn ystod yr ymgyrch. Roedd wedi'i gysylltu'n agos ac yn gyhoeddus â'r blaid. Byddai ymgyrch yn erbyn y dreth ddementia wedi bod yn fwy tebygol o lawer o fodloni'r prawf diben ar gydbwyso'r ffactorau – yn enwedig am fod gwrthwynebwyr y Ceidwadwyr wedi bathu'r ymadrodd ‘treth ddementia’ ac wedi'i ddefnyddio yn yr ymgyrch etholiadol honno.
 

Gweithgaredd ymgyrchu cyn cyhoeddi etholiad

Gweithgaredd ymgyrchu cyn cyhoeddi etholiad

Mae’n annhebygol y bydd yn rhesymol ystyried bod ymgyrch sy’n rhedeg ers tro byd ar fater penodol a oedd yn cael ei chynnal cyn i etholiad gael ei gyhoeddi yn un sy’n bwriadu dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol mewn etholiad sydd yn yr arfaeth os nad oes yna etholiad yn yr arfaeth.

Os bydd ymgyrch sy’n rhedeg ers tro byd yn parhau’n ddigyfnewid unwaith y bydd yr etholiad wedi’i gyhoeddi, mae’n annhebygol y bydd yn cael ei hystyried yn weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir.

Os bydd gweithgaredd ynghylch ymgyrch sy’n rhedeg ers tro byd yn cynyddu neu’n cael ei newid yn y cyfnod cyn yr etholiad mewn ffordd sy’n bodloni’r prawf diben, h.y. y byddai’n rhesymol bellach ystyried bod y gweithgaredd yn un sy’n bwriadu dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol, fe allai gael ei hystyried yn weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir. O’r pwynt pan ystyrir bod yr ymgyrch yn weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir, mae’r costau sy’n gysylltiedig â’r ymgyrch honno yn debygol o fod yn wariant a reolir ac mae’n rhaid eu trin felly.

Mae’n dal yn bosibl ystyried bod ymgyrch yn weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir pan fwriedir iddi gyflawni diben arall heblaw dylanwadu ar bleidleiswyr, os yw’n rhesymol ystyried bod yr ymgyrch yn un sy’n bwriadu dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol mewn etholiad sydd yn yr arfaeth.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2023