Y prawf diben a’r cyfnod a reoleiddir ôl-weithredol

Gall natur ôl-weithredol y cyfnod a reoleiddir ymwneud ag ymgeiswyr o ganlyniad i ansicrwydd ynghylch p'un a yw'r cyfreithiau yn berthnasol. Fodd bynnag, mae'n annhebygol y bydd y rhan fwyaf o weithgarwch ymgyrchu a wnaed cyn cyhoeddi etholiad yn bodloni'r prawf diben.

Er bod y cyfnod a reoleiddir yn ôl-weithredol, nid yw'r prawf diben ei hun yn ôl-weithredol. Mae hyn yn golygu y bydd eich ymgyrch ond yn cael ei rheoleiddio os bodlonodd y prawf diben ar yr adeg y cafodd ei chynnal – ac mae hyn yn llawer llai tebygol pan nad oes etholiad.

Yn gyntaf, mae llawer o ymgyrchoedd yn seiliedig ar faterion yn unig yn hytrach na chanolbwyntio ar ymgeiswyr neu bleidiau. Efallai na fydd gan bolisïau a materion gysylltiad digon agos na chyhoeddus â phlaid, pleidiau neu gategori o ymgeiswyr er mwyn i'r gweithgarwch ymgyrchu fodloni'r prawf diben. Mae hyn yn arbennig o wir pan fwriedir cynnal yr ymgyrchoedd y tu allan i gyfnod etholiad, am eu bod yn llai tebygol o gael galwad i weithredu wedi'i hanelu at bleidleiswyr, neu gyfeirio at bleidiau neu ymgeiswyr hyd yn oed.

Yn ail, mae'n annhebygol y gellir ystyried yn rhesymol eich bod yn bwriadu dylanwadu ar bobl i bleidleisio mewn etholiad pan nad ydych yn gwybod bod etholiad yn digwydd nac yn disgwyl un. Felly, yn yr achosion hyn, mae'n annhebygol y bydd eich gweithgarwch yn bodloni'r prawf diben.

Felly, er enghraifft, pan na fydd etholiad a phan na gyfeirir at ymgeiswyr, pleidiau nac etholiadau, mae: 

  • ymgyrchoedd ar faterion megis costau byw neu'r GIG
  • ymgyrchoedd yn hyrwyddo pleidlais o blaid gweithredu diwydiannol

yn annhebygol o fodloni'r prawf diben, hyd yn oed os ydynt yn beirniadu'r llywodraeth. 

Yr eithriadau tebygol i hyn yw naill ai:

  • gwnaethoch gynnal ymgyrchoedd a oedd wedi bodloni'r prawf diben mewn etholiad gwahanol yn ystod y cyfnod a reoleiddir – er enghraifft, gwnaethoch ymgyrchu mewn etholiadau lleol yn gynharach yn y cyfnod a reoleiddir 
  • gwnaethoch ragweld neu gyfeirio at yr etholiad yn y dyfodol cyn iddo gael ei gyhoeddi – er enghraifft “Pleidleisiwch dros y Ceidwadwyr yn yr etholiad sydd ar ddod”, neu “Disodlwch ASau a bleidleisiodd dros gyni”

Os byddwch yn gwario arian ar ymgyrchu fel hyn ar unrhyw adeg, yna bydd angen i chi gadw cofnod o'r hyn rydych wedi'i wario. Mae hyn oherwydd, os caiff etholiad cyffredinol Senedd y DU ei alw, byddwch yn gwybod faint o wariant a reoleiddir yr aethoch iddo yn ystod y cyfnod a reoleiddir.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2023