Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: Etholiadau cyffredinol Senedd y DU

Beth sy'n digwydd os yw'r polisi rydych wedi bod yn ymgyrchu drosto yn cael ei fabwysiadu gan blaid wleidyddol?

Gall plaid wleidyddol fabwysiadu polisïau rydych eisoes yn ymgyrchu'n weithredol drostynt neu yn eu herbyn, a hynny'n gyhoeddus.

Os nad oedd eich ymgyrch yn bodloni'r prawf diben cyn i'r blaid newid ei barn, mae'n parhau i fod yn annhebygol y bydd eich ymgyrch arfaethedig yn bodloni'r prawf.

Fodd bynnag, am fod y blaid wedi newid ei safbwynt, gallech wella neu gynyddu eich gwariant ar y mater y tu hwnt i'r bwriad gwreiddiol.

Yn yr achos hwn pan fyddwch yn newid eich dull gweithredu, caiff gwariant pellach ar ymgyrchu ei reoleiddio os gellir ystyried yn rhesymol mai bwriad y gwariant yw hyrwyddo neu feirniadu'r blaid.

Fel arfer, dylech asesu eich ymgyrch drwy ddefnyddio'r ffactorau a nodwyd gennym.

Er enghraifft, os byddwch yn croesawu ymrwymiad plaid wleidyddol i bolisi rydych wedi ymgyrchu drosto, a'i bod yn glir y byddech yn croesawu ymrwymiad gan unrhyw blaid wleidyddol, yn nodweddiadol, ni fydd hyn yn diwallu'r prawf diben.
 

Examples

Enghraifft A

Mae sefydliad yn cynnal ymgyrch yn galw ar y llywodraeth a phleidiau gwleidyddol i ymrwymo i rewi rhenti er mwyn helpu rhentwyr yn ystod yr argyfwng costau byw. Mae'r ymgyrch wedi bod yn cael ei chynnal ers sawl blwyddyn.

Unwaith y caiff etholiad cyffredinol Senedd y DU ei gyhoeddi, mae'r sefydliad yn cynyddu ei wariant fel y cynlluniwyd er mwyn ehangu cyrhaeddiad ei ymgyrch. Nid yw cwmpas yr ymgyrch yn newid yn ystod y cyfnod a reoleiddir.

Yn ystod y cyfnod a reoleiddir, mae sawl plaid yn nodi bod costau cynyddol rhentu yn broblem i'r cyhoedd. Mae dwy blaid yn cynnwys addewid i rewi costau rhentu i rai rhentwyr yn eu maniffestos, tra bo ambell un arall yn cynnig polisïau cyffredinol mewn perthynas â rhoi mwy o gymorth i rentwyr pe baent yn cael eu hethol.

Mae'r sefydliad yn cyhoeddi datganiad yn croesawu cyhoeddiad polisi pob plaid ac yn annog pleidiau eraill i ddilyn esiampl y pleidiau hyn.

Er bod yr ymgyrch yn gadarnhaol mewn perthynas â phleidiau sy'n cefnogi camau i rewi rhenti drwy eu canmol am fabwysiadu polisïau, nid yw'r prawf diben wedi'i fodloni. Mae amseru'r ymgyrch a'r alwad i weithredu sydd wedi'i hanelu at bleidiau gwleidyddol i newid eu polisïau, yn hytrach na thargedu pleidleiswyr, yn awgrymu na ellir ystyried yn rhesymol mai bwriad y gweithgarwch yw dylanwadu ar bleidleiswyr. Nid yw gwariant ar y gweithgarwch wedi ei reoleiddio.

Enghraifft B

Mae ymgyrchydd wedi bod yn ymgyrchu ar faes polisi ers rhai blynyddoedd. Mae'n cynnal ymgyrch hysbysebu ddigidol ar y mater, sy'n cael ei chynnal yn ystod y cyfnod a reoleiddir ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU. Nid yw'r ymgyrch yn cyfeirio at bleidiau nac ymgeiswyr ac nid yw'n bodloni'r prawf diben.

Yn ystod yr ymgyrch, mae'r blaid sy'n llywodraethu yn ymrwymo i ddiddymu ymrwymiad gwariant allweddol yn y maes polisi hwnnw. Mae'r tair gwrthblaid fwyaf oll yn ailddatgan eu hymrwymiad i'r gwariant, a daw'r mater yn un blaenllaw yn yr etholiad. Mae hyn yn creu cyd-destun gwleidyddol newydd.

Mae'r ymgyrch hysbysebu ddigidol yn parhau drwyddi draw. Gan nad yw'r ymgyrch wedi newid ers iddi gael ei lansio cyn i'r pleidiau fabwysiadu'r mater, nid oes angen cymhwyso'r prawf diben yn y cyd-destun gwleidyddol newydd. Nid yw'r ymgyrch yn bodloni'r prawf o hyd.

Gan ymateb i'r diddordeb cynyddol yn ei fater, mae'r ymgyrchydd yn ymddangos mwy yn y cyfryngau ac yn cynyddu ei weithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol. Wrth wneud hyn, mae'n canolbwyntio mwy ar fanteision y polisi ac yn annog pob plaid i ailddatgan ei hymrwymiad. 

Gan fod hyn yn weithgarwch newydd, mae angen cymhwyso'r prawf diben yn y cyd-destun gwleidyddol newydd. Fodd bynnag, gan fod yr ymgyrch yn parhau i fod yn gyffredinol ei natur, heb alwad benodol i bleidleiswyr weithredu, hyd yn oed yn y cyd-destun newydd, ni ellir ystyried yn rhesymol mai bwriad yr ymgyrch yw dylanwadu ar bleidleiswyr, ac ni fodlonir y prawf diben.

Yn agosach at yr etholiad, mae'r ymgyrchydd yn cynnal ymgyrch hysbysebu newydd gyda'r slogan ‘Pleidleisiwch i gynnal yr ymrwymiad’. Yn y cyd-destun gwleidyddol newydd, mae gan y slogan gysylltiad clir â'r etholiad a galwad i weithredu wedi'i hanelu at bleidleiswyr gyda'r gair ‘Pleidleisiwch’. Gan fod y mater yn un blaenllaw, byddai person rhesymol yn meddwl bod yr ymgyrchydd yn bwriadu dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio yn erbyn y blaid sy'n llywodraethu ac o blaid unrhyw un o'r tair gwrthblaid sydd wedi gwneud yr ymrwymiad. Caiff gwariant ar yr ymgyrch newydd ei reoleiddio.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2023