Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: Etholiadau cyffredinol Senedd y DU

Bwriad

Ymgyrchoedd amlbwrpas

Gall gweithgaredd sy’n bodloni’r prawf diben fod â nodau eraill yn ogystal â ‘chael ei hystyried yn rhesymol yn un y bwriedir iddi ddylanwadu ar sut mae pobl yn pleidleisio’. 

Does dim ots a ydy hi’n rhesymol ystyried bod gweithgaredd yn un y bwriedir iddo ateb diben arall neu ddibenion eraill os yw hi hefyd yn rhesymol ystyried ei fod yn un sy’n bwriadu dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol. 1

Er enghraifft, mae gweithgaredd ymgyrchu wedi’i fwriadu i gyflawni dau ddiben, diben X a diben Y. Os yw diben X yn bodloni’r prawf diben, mae’n amherthnasol nad yw diben Y yn bodloni’r prawf diben hefyd.
 

Bwriad

Mae'n bwysig ystyried sut byddai person rhesymol yn ystyried eich gweithgarwch ac a fyddai o'r farn mai bwriad eich ymgyrch yw dylanwadu ar bobl i bleidleisio dros neu yn erbyn plaid neu bleidiau gwleidyddol neu gategori o ymgeiswyr mewn etholiad sydd ar ddod. Beth bynnag fo nodau neu fwriadau eich ymgyrch, mae'n bosibl y byddai person rhesymol yn ystyried bod ganddi fwriad gwahanol, neu fwriad pellach, yn wahanol i'r hyn a ragwelwyd gennych.

Mae'n bosibl nad dylanwadu ar bleidleiswyr yw prif fwriad eich ymgyrch. Er enghraifft, gallech gynnal ymgyrch ag un neu fwy o'r bwriadau canlynol: 

  • codi ymwybyddiaeth o fater
  • dylanwadu ar bleidiau gwleidyddol i fabwysiadu polisi yn eu maniffestos
  • ymgyrchu o blaid neu yn erbyn deddfwriaeth y llywodraeth
  • rhoi gwybodaeth i bleidleiswyr
  • annog pleidleiswyr i gofrestru i bleidleisio
  • annog pobl i bleidleisio, ond nid dros unrhyw un yn benodol

Ni fydd ymgyrch y gellir ystyried yn rhesymol bod ganddi un o'r bwriadau hyn yn bodloni'r prawf diben, oni bai y gellir ystyried yn rhesymol hefyd fod ganddi'r bwriad i ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio dros neu yn erbyn plaid wleidyddol neu gategori o ymgeiswyr.

Hyd yn oed os yw eich prif fwriad yn ymwneud â rhywbeth arall, bydd eich ymgyrch yn dal i fodloni'r prawf diben os gellir ystyried yn rhesymol bod ganddi fwriad i ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio dros neu yn erbyn plaid wleidyddol neu gategori o ymgeiswyr. 

Er enghraifft, tybiwch mai eich bwriad yw dylanwadu ar bleidiau gwleidyddol i fabwysiadu polisi. Os byddwch yn mynd ati i wneud hyn drwy nodi a hyrwyddo pleidiau ac ymgeiswyr sydd eisoes wedi mabwysiadu'r polisi, bydd hyn yn bodloni’r prawf diben.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023