Os yw ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn cydweithio fel rhan o ymgyrch ar y cyd heb brif ymgyrchydd, rydym yn galw hynny’n ‘ymgyrch ar y cyd gyffredin’.
Os ydych chi’n ymgyrchydd nad yw’n blaid mewn ymgyrch ar y cyd gyffredin, mae’n rhaid i chi gofnodi’r gwariant a reoleiddir cyfunol ar yr ymgyrch ar y cyd gan y bydd yn cyfrif tuag at y terfynau gwariant ar gyfer pob ymgyrchydd nad yw’n blaid dan sylw, gan gynnwys chi’ch hun.
Os ydych chi eisiau gwario mwy na £10,000 ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir ledled y DU, gan gynnwys ymgyrchu ar y cyd, rhaid i chi gofrestru gyda’r Comisiwn Etholiadol.
Os na fyddwch yn cofrestru, ni allwch wario mwy na £10,000 yn ystod cyfnod a reoleiddir ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir, gan gynnwys gwariant ymgyrchu ar y cyd gan eich partneriaid ymgyrchu ar y cyd.
Os ydych chi’n ymgyrchydd cofrestredig nad yw’n blaid sy’n cymryd rhan mewn ymgyrch ar y cyd, mae’n rhaid i chi adrodd eich gwariant eich hun ar yr ymgyrch ar y cyd. Nid oes rhaid i chi roi gwybod am y gwariant gan eich partneriaid ymgyrchu ar y cyd, ond mae’r gwariant hwnnw’n cyfrif tuag at gyfanswm eich gwariant a reoleiddir. Dylech chi roi gwybod am gyfanswm yr hyn a wariodd eich partneriaid ar yr ymgyrch ar y cyd.
Er enghraifft, rydych chi ac ymgyrchydd arall nad yw’n blaid yn cytuno i wario £8,000 yr un ar ymgyrch ar y cyd gyffredin yng Nghymru. Felly, cyfanswm y gwariant ar gyfer yr ymgyrch ar y cyd yw £16,000.
Rhaid i’r ddau ohonoch gyfrif £16,000 tuag at gyfanswm eich gwariant a reoleiddir.
Gan fod y cyfanswm hwn dros £10,000, rhaid i chi a’r ymgyrchydd arall gofrestru gyda’r Comisiwn cyn gwario mwy na’r swm hwn.
Rhaid i bob ymgyrchydd roi gwybod am ei wariant ei hun yn ei ffurflen gwariant. Dylent hefyd adrodd cyfanswm gwariant eu partner ymgyrchu ar y cyd.