Canllaw cryno – Cyflenwi copïau o'r gofrestr etholwyr wedi'i marcio a rhestrau pleidleiswyr absennol wedi'u marcio yn yr Alban
Os gwneir cais amdanynt, rhaid darparu rhannau perthnasol o'r copi wedi'i farcio o'r gofrestr etholwyr ac unrhyw hysbysiadau sy'n ei newid, yn ogystal â'r copïau wedi'u marcio o'r rhestr pleidleiswyr post, y rhestr dirprwyon, a'r rhestr dirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post, i unigolion penodol, ar ôl iddynt dalu'r ffi ragnodedig.1
Rhaid i'r cais gael ei wneud yn ysgrifenedig, gan nodi'r canlynol:2
pa rai o'r gofrestr neu'r rhestrau wedi'u marcio (neu'r rhannau perthnasol ohonynt) y gwneir cais amdanynt;
p'un a ofynnir am gopïau argraffedig neu gopïau data; ac
at ba ddiben y caiff y data eu defnyddio a'r rheswm pam na fyddai darparu'r data llawn yn ddigon i fodloni'r diben hwnnw
Dim ond at y dibenion canlynol y gellir defnyddio'r gofrestr etholwyr wedi'i marcio a'r rhestrau wedi'u marcio:
dibenion GDPR yn erthygl 89
dibenion etholiadol
dibenion sy'n gymwys o dan y rheoliad sy'n rhoi hawl i'r unigolyn neu'r corff ddefnyddio'r gofrestr lawn o etholwyr
Caiff cost dogfen wedi'i marcio ei rhagnodi. Y ffi ar gyfer copïau data yw £10 yn ogystal â £1 fesul 1,000 o gofnodion neu ran ohonynt, ac ar gyfer copïau wedi'u hargraffu, y ffi yw £10 yn ogystal â £2 fesul 1,000 o gofnodion neu ran ohonynt.3
Rhaid i chi ddarparu’r copïau y gwneir cais amdanynt ar yr amod y caiff y ffi berthnasol ei thalu a’ch bod yn fodlon bod angen i’r sawl sy’n gwneud y cais weld y marciau ar y gofrestr neu’r rhestrau wedi’u marcio er mwyn bodloni’r diben dan sylw.4
Os na fyddwch yn fodlon bod angen i'r ceisydd weld y marciau ar y gofrestr wedi'i marcio neu'r rhestr(au) wedi'i marcio/wedi'u marcio at y diben y gofynnir amdanynt, gall drin y cais fel un am wybodaeth mewn rhestrau heb eu marcio, neu am gopi o'r gofrestr lawn, neu'r ddau.
Pan fyddwch yn darparu’r gofrestr wedi’i marcio, dylech atgoffa’r derbynnydd y dylid dinistrio’r data yn ddiogel pan fydd y diben y darparwyd y gofrestr ar ei gyfer wedi dod i ben.