Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Canllaw cryno - Dogfennaeth etholiadol a gaiff ei harchwilio gan y cyhoedd yn yr Alban

Gall unrhyw un archwilio'r gofrestr wedi'i marcio ac unrhyw hysbysiadau sy'n ei newid, yn ogystal â chopïau wedi'u marcio o'r rhestr pleidleiswyr post, y rhestr dirprwyon a'r rhestr dirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post, a'r cyfryw ddogfennau eraill sy'n gysylltiedig ag etholiad y mae'n ofynnol i chi eu cadw, ac eithrio papurau pleidleisio, rhestrau rhifau cyfatebol wedi'u cwblhau, tystysgrifau cyflogaeth y rhai ar ddyletswydd ar y diwrnod pleidleisio, a'r rhestrau o bapurau pleidleisio a wrthodwyd o dan y weithdrefn ddilysu.1      

Rhaid i unrhyw un sydd am archwilio'r gofrestr wedi'i marcio neu'r rhestr pleidleiswyr absennol wedi'i marcio wneud cais yn ysgrifenedig, gan nodi'r canlynol:2    

  • pa gofrestr neu ddogfen y mae am ei harchwilio
  • a yw am archwilio copi argraffedig neu gopi data (lle y bo'n briodol)
  • at ba ddiben y defnyddir unrhyw wybodaeth
  • pan fydd y cais yn ymwneud â'r gofrestr wedi'i marcio neu'r rhestrau wedi'u marcio, y rheswm pam na fyddai archwilio'r gofrestr lawn neu'r rhestrau heb eu marcio yn ddigon i fodloni'r diben hwnnw
  • pwy fydd yn archwilio'r dogfennau 
  • ar ba ddyddiad yr hoffai archwilio'r dogfennau

Gallwch wrthod caniatáu i'r dogfennau hyn gael eu harchwilio os byddwch yn fodlon y gellir bodloni dibenion y sawl sy'n gwneud cais drwy archwilio'r gofrestr lawn. Mewn achos o'r fath, rhaid i chi hysbysu'r sawl sy'n gwneud cais am y penderfyniad hwn a rhoi gwybodaeth iddo am argaeledd y gofrestr lawn i'w harchwilio.3 Fel arall, rhaid sicrhau bod y dogfennau ar gael o fewn 10 diwrnod i gael y cais. Rhaid i chi drefnu iddynt gael eu harchwilio dan oruchwyliaeth. Gall yr archwiliad ddigwydd yn unrhyw le a fynnoch.4

Gall y rhai sy'n archwilio'r dogfennau wneud copïau o'r cofrestrau a'r rhestrau gan ddefnyddio nodiadau ysgrifenedig yn unig.5 Ni chaiff unrhyw un ddefnyddio gliniaduron nac offer recordio arall heblaw am yr heddlu a sefydliadau diogelwch a restrir yn ein canllawiau ar Ddogfennaeth etholiadol sydd ar gael i'r heddlu a sefydliadau diogelwch yn yr Alban.

Ni ellir gwneud copïau o unrhyw ddogfennaeth etholiadol arall sydd ar gael i'w harchwilio ar unrhyw ffurf.  

Mae'r un mesurau diogelu yn gymwys i oruchwylio a diogelu'r wybodaeth ag sy'n gymwys i archwilio'r gofrestr lawn.  

  • unrhyw ddibenion GDPR yn erthygl 89 
  • dibenion etholiadol
Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Rhagfyr 2024