Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr
Nodi staff cymorth o'ch cyngor
Dylech nodi staff cymorth a sicrhau eu bod ar gael i helpu gydag unrhyw ymholiadau cyhoeddus a gewch efallai yn y cyfnod cyn yr etholiad. Gall fod cyfleoedd i ddefnyddio staff cymorth presennol eich cyngor i gyflawni'r rôl hon.
Dylai'r staff cymorth rydych chi'n eu defnyddio gael eu hyfforddi i ddeall bod rhwystrau amrywiol y gallai etholwyr anabl eu hwynebu wrth gyrchu gwybodaeth neu bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio. Gall pleidleiswyr anabl gysylltu â'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) i nodi maes penodol y mae arnynt angen cymorth ag ef yn yr orsaf bleidleisio. Ceir rhagor o wybodaeth am ddeall y rhwystrau i bleidleisio yn ein canllawiau.
Rheoli ymholiadau gan y cyhoedd
Dylech sefydlu tîm penodedig i ddelio ag amrywiaeth o ymholiadau sylfaenol, fel cwestiynau ynghylch p'un a yw rhywun wedi'i gofrestru i bleidleisio, pleidleisio drwy'r post a thrwy ddirprwy a lleoliad gorsafoedd pleidleisio. Lle nad chi yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd, bydd angen i chi weithio gyda Swyddog Cofrestru Etholiadol eich awdurdod lleol fel y bo'n briodol er mwyn hwyluso hyn.
Dylai staff sy'n delio ag ymholiadau gan y cyhoedd gael hyfforddiant i ddelio â nhw a dylid rhoi'r canlynol iddynt hefyd:
- ymatebion y cytunwyd arnynt i gwestiynau cyffredin
- rhestr o leoliadau gorsafoedd pleidleisio
- manylion dyddiadau allweddol yn amserlen yr etholiad
- manylion y broses sydd ar waith i uwchgyfeirio ymholiadau mwy cymhleth at aelodau tîm yr etholiad
Rydym wedi datblygu templed o gwestiynau cyffredin ar gyfer staff rheng flaen y gallwch ei addasu i gyd-fynd â'ch amgylchiadau lleol.
Cwestiynau Cyffredin ar gyfer staff rheng flaen yn etholiad Senedd y DU - Rydym yn diweddaru'r adnodd hwn i adlewyrchu mesurau newydd a gyflwynwyd gan Ddeddf Etholiadau 2022. Bydd ar gael eto unwaith y bydd y diweddariadau wedi'u cwblhau.
Os ydych chi'n cynnal is-etholiad Senedd y DU, dylech gysylltu â'ch tîm Comisiwn lleol i gael cefnogaeth a chyngor.
Prosesu ceisiadau
Bydd angen i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol ystyried a fydd angen unrhyw staff cymorth ychwanegol arno er mwyn helpu i brosesu ceisiadau cofrestru a phleidleisio absennol yn y cyfnod cyn yr etholiad – ac yn enwedig yn y cyfnod cyn y dyddiad cau cofrestru ar y 12fed diwrnod gwaith cyn y bleidlais. Lle nad chi yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd, dylech gydgysylltu â'r swyddog hwnnw er mwyn deall sut y bydd yn rheoli'r cynnydd tebygol mewn ceisiadau yn agos at y terfynau amser, er mwyn sicrhau bod pob aelod o staff sy'n rhan o'r etholiad a'r broses o reoli ymholiadau yn meddu ar ddealltwriaeth glir ac y gallant hysbysu etholwyr yn briodol.
Ceir rhagor o wybodaeth am brosesu ceisiadau cofrestru a phleidleisio absennol yn y cyfnod cyn etholiad yn adrannau Cynnal y broses cofrestru etholiadol a Pleidleisio absennol canllawiau'r Comisiwn ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.
Derbyn pleidleisiau post yn swyddfeydd y cyngor
Dim ond pobl sydd wedi'u hawdurdodi i weithredu ar eich rhan all dderbyn pleidleisiau post a ddychwelir atoch â llaw. Dylech ystyried a fyddwch yn awdurdodi staff cymorth ychwanegol i helpu i dderbyn pleidleisiau post wedi'u cwblhau a ddychwelir gan aelodau o'r cyhoedd i swyddfeydd y cyngor.
Dylech gadw cofnod o'r bobl yr ydych wedi'u hawdurdodi i weithredu ar eich rhan a derbyn pleidleisiau post a ddychwelwyd â llaw.
Mae rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar y weithdrefn i'w dilyn pan fydd pleidleisiau post yn cael eu cyflwyno i'r Swyddog Canlyniadau yn swyddfeydd y cyngor.