Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Cymarebau staff a argymhellir ar gyfer gorsafoedd pleidleisio

Eich cyfrifoldeb chi yw ystyried pob gorsaf bleidleisio yn unigol a gwneud penderfyniadau ynghylch neilltuo staff ac etholwyr yn unol â hynny.

Rydym yn argymell y cymarebau canlynol wrth neilltuo etholwyr a staff i orsafoedd pleidleisio:

Etholwyr (ac eithrio pleidleiswyr post)Nifer argymelledig o staff gorsaf bleidleisio
0 - 1,2503 (1 Swyddog Llywyddu a 2 Clerc Pleidleisio)
1,250 - 2,2504 (1 Swyddog Llywyddu a 3 Clerc Pleidleisio)

Ni ddylid neilltuo mwy na 2,250 o etholwyr i orsaf bleidleisio.

Mae'r cymarebau a amlinellir yn tybio nad yw'r etholiad yn un cyfun. Os ceir etholiadau cyfun, dylech ystyried a oes angen staff ychwanegol ar gyfer rheoli mwy nag un bleidlais. 

Arweiniad yn unig yw'r cymarebau hyn, nid ydynt yn orfodol.

Wrth wneud penderfyniadau ar neilltuo etholwyr a staff i orsafoedd pleidleisio, dylech ystyried yn llawn amgylchiadau penodol pob gorsaf bleidleisio ac anghenion eich etholwyr, a dogfennu'r rhesymeg y tu ôl i'r penderfyniadau a wnewch. 

Dylech ystyried y canlynol o leiaf: 

  • unrhyw amgylchiadau lleol penodol fel cynnydd yn y boblogaeth (er enghraifft, oherwydd unrhyw ddatblygiadau tai newydd ers eich adolygiad diwethaf o'r mannau pleidleisio), tueddiadau demograffig, ac unrhyw anghenion hysbys eich etholwyr lleol (er enghraifft, unrhyw ardaloedd lle rydych yn disgwyl y gallai fod angen i chi gynnal gwiriad ID yn breifat yn amlach)
  • lefelau'r pleidleiswyr post
  • nifer y pleidleisiau post a gyflwynir fel arfer a'r effaith y bydd trin pleidleisiau post yn ei chael ar amser staff gorsafoedd pleidleisio - gan gynnwys cwblhau ffurflen y bleidlais bost yn gywir
  • y posibilrwydd y bydd ymgysylltu hwyr, gan gynnwys unrhyw faterion lleol neu genedlaethol, a allai effeithio ar y nifer sy'n pleidleisio a diddordeb yn yr etholiad – fel gofyniad sylfaenol, dylech dybio na fydd y nifer sy'n pleidleisio yn llai na'r nifer a bleidleisiodd yn yr etholiad cyfatebol diwethaf
  • gwasgariad pleidleiswyr yn ystod y dydd – er enghraifft, os yw tueddiadau diweddar yn dangos bod nifer fawr o bleidleiswyr yn mynychu'r orsaf yn y bore, sicrhewch fod eich cymarebau staffio yn caniatáu ar gyfer hyn a bydd yn atal ciwiau mawr rhag ffurfio 
  • cymorth ychwanegol efallai y bydd ei angen ar etholwyr i ddeall unrhyw newidiadau diweddar i'r broses etholiadol, yn enwedig lle gallai hyn effeithio'n wahanol yn dibynnu ar ba etholiadau sy'n cael eu cynnal
  • sut y bydd y pleidleisiwr yn symud drwy'r broses bleidleisio o'r adeg y daw i mewn i'r orsaf bleidleisio i'r adeg y bydd yn ei gadael  
  • mewn etholiadau cyfunol, yr effaith a gaiff y ffaith bod etholiadau wedi'u cyfuno, megis yr amser y mae'n ei gymryd i ddosbarthu papurau pleidleisio a'r amser y mae'n ei gymryd i bleidleiswyr gwblhau mwy nag un papur pleidleisio

Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr, a dylech hefyd ystyried unrhyw ffactorau eraill sy'n briodol yn eich barn chi. Mae ein canllawiau hygyrchedd yn cynnwys ffactorau ychwanegol i'w hystyried wrth gynllunio eich lefelau staffio yn yr orsaf bleidleisio. Dylai pob penderfyniad gael ei wneud fesul achos ac nid ar gyfer yr etholaeth gyfan.  

Yn ogystal ag ystyried nifer y staff y bydd eu hangen i reoli pob gorsaf bleidleisio, dylech feddwl sut y byddwch yn gallu ymateb yn gadarnhaol i geisiadau gan bleidleiswyr i gael gwiriad ID gan aelod benywaidd o'r staff. Yn ddelfrydol, bydd gennych aelod benywaidd o'r staff ym mhob gorsaf bleidleisio, ond lle nad yw hyn yn bosibl, dylech feddwl sut y gallwch ddefnyddio staff eraill yn hyblyg i fodloni'r cais, er enghraifft, drwy ddefnyddio arolygwyr gorsafoedd pleidleisio benywaidd y dirprwywyd awdurdod iddynt i gynnal y gwiriadau hyn. Mae rhagor o wybodaeth am arolygwyr gorsafoedd pleidleisio ar gael isod.

Yn ogystal â chadw cofnod o'r penderfyniadau a wnaed, dylech gadw cynllun sy'n sicrhau eich bod yn gallu ymateb i unrhyw broblemau, er enghraifft, delio â chiwiau mewn un neu fwy o orsafoedd pleidleisio yn eich ardal ar adegau sy'n arbennig o brysur, fel y rhuthr traddodiadol ar ôl gwaith, neu yn y cyfnod cyn diwedd y bleidlais am 10pm. Rhaid rhoi papur pleidleisio i bleidleiswyr sydd mewn ciw yn eu gorsaf bleidleisio am 10pm.  

Arolygwyr gorsafoedd pleidleisio

Yn ogystal â gwneud penderfyniadau ar y nifer o staff gorsafoedd pleidleisio y byddwch eu hangen, dylech hefyd sicrhau bod gennych ddigon o arolygwyr gorsafoedd pleidleisio i gefnogi cyflawniad y bleidlais yn eich ardal. Wrth wneud eich penderfyniad, dylech ystyried ffactorau megis eich daearyddiaeth leol a phrofiad staff gorsaf bleidleisio ym mhob man pleidleisio.

Gallech ddefnyddio arolygwyr gorsafoedd pleidleisio benywaidd i gefnogi etholwyr sy’n gwneud cais i gael eu ID wedi’i wirio gan aelod benywaidd o staff pan nad oes aelod benywaidd o staff ar gael mewn gorsaf bleidleisio benodol ar yr adeg honno. I hwyluso hyn byddai angen i chi benodi arolygydd yr orsaf bleidleisio yn Ddirprwy Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) ar gyfer y diwrnod pleidleisio. Dylech sicrhau bod unrhyw benodiad tebyg wedi’i ddiffinio’n glir i adlewyrchu ei fod dim ond ar gyfer gwneud penderfyniadau ar ddilysrwydd ID fel rhan o unrhyw wiriadau y maent yn eu cynnal.

Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau Penodi arolygwyr gorsafoedd pleidleisio
 

Enghreifftiau o ddefnyddio staff mewn gorsaf bleidleisio

Mae opsiynau gwahanol ar gael i chi wrth ddefnyddio staff mewn gorsafoedd pleidleisio. Dylai eich cynlluniau fod yn ddigon hyblyg i ganiatáu i chi ddefnyddio staff i ymateb i faterion penodol a all godi yn ystod y diwrnod pleidleisio. 

Dyma rai enghreifftiau:

  • os oes gennych un Swyddog Llywyddu gyda dau aelod o staff ychwanegol wedi'u neilltuo i orsaf bleidleisio, dylid hyfforddi'r tri yn y broses o anfon papurau pleidleisio, gwirio ID ffotograffig a llenwi'r gwaith papur cysylltiedig. Tra bod dau aelod o staff yn cynnal y broses anfon, gallai'r llall fel swyddog gwybodaeth roi cyngor a chymorth i bleidleiswyr yn ôl y gofyn
  • os lleolir yr orsaf bleidleisio mewn man pleidleisio sy'n cynnwys sawl gorsaf bleidleisio, gellid defnyddio aelod o staff fel swyddog gwybodaeth sy'n cwmpasu'r holl orsafoedd pleidleisio i helpu i gyfeirio pleidleiswyr i'r orsaf bleidleisio gywir a rhoi cyngor a chymorth i bleidleiswyr yn ôl y gofyn
  • gallai staff o un orsaf bleidleisio yn y man pleidleisio gael eu defnyddio hefyd i helpu staff mewn gorsaf bleidleisio arall yn yr un man pleidleisio os oes angen, er enghraifft, o ganlyniad i nifer fawr o bleidleiswyr yn mynd i un o'r gorsafoedd ar adeg benodol pan fydd yr orsaf arall yn dawel.

Efallai y byddwch hefyd am ystyried penodi tîm o staff gorsaf bleidleisio wrth gefn i gael eu defnyddio'n hyblyg yn ôl yr angen, megis yn ystod oriau brig neu yn y cyfnod cyn diwedd y bleidlais, neu i ymateb i faterion penodol a allai godi trwy gydol y diwrnod pleidleisio. Er enghraifft, gallech leoli staff ychwanegol yn y man pleidleisio mwyaf/prysuraf sydd gennych mewn ardal a'u defnyddio mewn gorsafoedd eraill yn yr ardal pan fo angen. 

Os nad yw rhannau o'r ardal etholiadol yn hawdd eu cyrraedd, efallai y bydd hi'n ddefnyddiol i chi gael timau mewn gwahanol rannau o'r ardal.

Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau bod modd defnyddio'n hybylg y cyllid sy'n cael ei ddarparu i gefnogi staff ychwanegol mewn gorsafoedd pleidleisio. Er enghraifft, nid yn unig i gyflogi clercod pleidleisio ychwanegol mewn gorsafoedd pleidleisio ond hefyd i gefnogi penodi arolygwyr gorsafoedd pleidleisio ychwanegol neu staff wrth gefn fel y bo'n briodol.

Bydd angen i chi hefyd feddwl sut i hyfforddi staff fel y gallwch eu defnyddio'n hyblyg ar y diwrnod pleidleisio. Gellir dod o hyd i ragor o ganllawiau ar hyfforddiant yn Hyfforddi swyddogion llywyddu clercod pleidleisio ac arolygwyr gorsafoedd pleidleisio

Mae llawlyfr y Comisiwn ar gyfer staff gorsafoedd pleidleisio yn amlinellu'n fanylach y gweithdrefnau y dylai staff eu dilyn drwy gydol y diwrnod pleidleisio ac ar ddiwedd y bleidlais. 


 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Tachwedd 2024