Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Penodi arolygwyr gorsafoedd pleidleisio

Mae arolygwyr gorsafoedd pleidleisio yn chwarae rôl bwysig yn y gwaith o reoli'r bleidlais yn effeithiol. Maent yn gyswllt cyfathrebu hanfodol rhyngoch chi a staff eich gorsafoedd pleidleisio gan gynnwys ymdrin ag ymholiadau a phroblemau sy'n codi mewn gorsafoedd pleidleisio ar y diwrnod pleidleisio. 

Dylech benodi arolygwyr gorsafoedd pleidleisio i ymweld ac archwilio gorsafoedd pleidleisio ar eich rhan ar y diwrnod pleidleisio. Wrth benderfynu sut i neilltuo arolygwyr gorsafoedd pleidleisio i fannau pleidleisio, dylech ystyried:

  • daearyddiaeth yr ardal a'r pellter teithio rhwng y mannau pleidleisio
  • nifer y gorsafoedd pleidleisio ym mhob man pleidleisio
  • profiad staff gorsafoedd pleidleisio ym mhob gorsaf bleidleisio
  • y nifer ddisgwyliedig o bleidleiswyr ac unrhyw amgylchiadau lleol penodol
  • sawl gwaith y bydd disgwyl i arolygwyr gorsafoedd pleidleisio ymweld â phob gorsaf bleidleisio yn ystod y dydd

Dyletswyddau arolygwyr gorsafoedd pleidleisio 

Dylai arolygwyr gorsafoedd pleidleisio sicrhau bod pob un o'r gorsafoedd pleidleisio y maent yn gyfrifol amdanynt:

  • wedi'u gosod yn gywir er mwyn ystyried anghenion pleidleiswyr a helpu i sicrhau bod yr orsaf bleidleisio yn rhedeg yn ddidrafferth 
  • yn cynnwys yr adnoddau angenrheidiol ac yn hygyrch i bob pleidleisiwr 
  • yn bodloni eich disgwyliadau o ran darparu gwasanaeth i bleidleiswyr

Dylai arolygydd yr orsaf bleidleisio weithio gyda'r Swyddogion Llywyddu a staff eraill y gorsafoedd pleidleisio a delio ag unrhyw broblemau sy'n codi yn ystod y diwrnod pleidleisio ac ar ddiwedd y diwrnod pleidleisio a dylent uwchgyfeirio unrhyw broblemau atoch chi fel y bo'n briodol. 

Dylai fod gennych broses ar waith i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol gyfleu unrhyw ddiwygiadau i'r gofrestr a cheisiadau i benodi dirprwyon mewn argyfwng ar y diwrnod pleidleisio. Dylech hysbysu arolygwyr gorsafoedd pleidleisio o'u rôl yn hyn o beth, os yw'n berthnasol.

Fel cam cychwynnol, dylai arolygwyr gorsafoedd pleidleisio anelu at ymweld â phob un o'u gorsafoedd pleidleisio neilltuedig mor gyflym â phosibl er mwyn eich sicrhau bod pob gorsaf wedi agor ar amser ac yn gweithredu'n effeithiol. 

Cyn yr ymweliadau cychwynnol hyn gallai Swyddogion Llywyddu anfon cyfathrebiad ar wahân at eu harolygwyr gorsafoedd pleidleisio, cyn i'r bleidlais agor. Er enghraifft, gallai arolygwyr gorsafoedd pleidleisio gael eu hysbysu drwy neges destun yn cadarnhau a yw'r orsaf bleidleisio yn barod i'w hagor, ac a oes unrhyw broblemau, er mwyn helpu arolygwyr gorsafoedd pleidleisio i flaenoriaethu eu hymweliadau.

Gellir defnyddio ymweliadau dilynol drwy gydol y dydd at amrywiaeth o ddibenion, gan gynnwys y canlynol:

  • casglu pleidleisiau post 
  • ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gan staff gorsafoedd pleidleisio
  • cadarnhau bod pob hysbysiad wedi'i arddangos yn briodol o hyd 
  • dosbarthu unrhyw gyfarpar coll neu ychwanegol sydd ei angen

Cyfarwyddiadau i arolygwyr gorsafoedd pleidleisio

Dylech roi cyfarwyddiadau clir i arolygwyr gorsafoedd pleidleisio ynglŷn â'u rôl a rhestr wirio o dasgau y dylent eu cyflawni a'u cwblhau yn ystod eu hymweliadau â gorsafoedd pleidleisio. Mae'r rhestr wirio hon hefyd yn cynnwys rhestr o'r hyn y dylai pob arolygydd gorsafoedd pleidleisio ei gael cyn y diwrnod pleidleisio.

Gellir defnyddio rhestrau gwirio wedi'u cwblhau hefyd i lywio gwerthusiad o addasrwydd gorsafoedd pleidleisio fel rhan o'r broses adolygu ôl-etholiadol. Mae copi o'r rhestr wirio i'w hargraffu a'i defnyddio yn ein hadran adnoddau cynllunio ar gyfer yr etholiad.

Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Hydref 2023