Caiff ei throsglwyddo neu ei darparu er defnydd neu fudd yr ymgeisydd
Rhaid i’r eitem gael ei throsglwyddo neu ei darparu i’r ymgeisydd er mwyn i hyn gyfrif fel gwariant tybiannol.1
Mae darparu eitemau, gwasanaethau neu gyfleusterau i’r ymgeisydd yn disgyn dan ddiffiniad rhodd. Golyga hyn y bydd unrhyw wariant tybiannol hefyd yn rhodd i’r ymgeisydd os yw’r gwerth yn fwy na £500 a rhaid hefyd adrodd amdano yn adran roddion y ffurflen. Gallwch ganfod mwy am y rheolau ynghylch rhoddion yn Rhoddion i ymgeiswyr unigol.
Enghraifft A
Mae argraffydd yn anfon taflenni at ymgeisydd i’w defnyddio yn ymgyrch yr ymgeisydd - felly mae’r taflenni wedi cael eu trosglwyddo i’r ymgeisydd.
Os yw’r ymgeisydd yn dosbarthu’r taflenni, mae wedi eu defnyddio yn ei ymgyrch. Mae’n rhaid adrodd am werth y taflenni fel gwariant tybiannol (os yw dros £50).
Os yw eitem sy’n hyrwyddo eich etholiad heb ei throsglwyddo neu ei darparu i chi, yna mae'n debygol o fod yn ymgyrchu lleol gan bwy bynnag sydd wedi cynnal y gweithgaredd.
Enghraifft B
Mae grŵp ymgyrch yn anfon taflenni sy’n hyrwyddo’r ymgeisydd yn uniongyrchol at bleidleiswyr. Mae’n rhoi gwybod i’r ymgeisydd ymlaen llaw ei fod yn bwriadu gwneud hynny.
Yn yr enghraifft hon, nid yw wedi darparu unrhyw beth i’r ymgeisydd - yr unig beth y mae wedi ei wneud yw dweud wrth yr ymgeisydd am yr hyn mae yn ei wneud. Mae wedi ymgyrchu dros yr ymgeisydd ar ei liwt ei hun.
Er y gall yr ymgeisydd elwa ar y taflenni, nid yw’r grŵp wedi rhoi rhywbeth i’r ymgeisydd y gall yr ymgeisydd wedyn benderfynu a yw am ei ddefnyddio a sut i’w ddefnyddio.
Nid gwerthiant tybiannol yw hyn. Mae’n ymgyrchu lleol dros yr ymgeisydd. Gweler ymgyrchu lleol am ragor o wybodaeth.