Os yw budd mewn da yn cael ei drosglwyddo neu ei ddarparu i’r ymgeisydd, yr unig adeg y mae’n cyfrif fel gwariant tybiannol yw os ydi’r ymgeisydd yn gwneud defnydd ohono yn ei ymgyrch, neu mae rhywun sy’n gweithredu ar ei ran yn ei ddefnyddio.1
Os yw gweithgareddau ymgyrch er mwyn cefnogi’r ymgeisydd yn cael eu rhoi ar waith gan rywun arall, nid yw’n ddigon bod yr ymgeisydd wedi cael budd o’r gweithgareddau, wedi cael gwybod amdanynt, neu hyd yn oed wedi mynegi eu diolch i’r person sy'n eu cynnal.
Yr unig adeg y caiff person wneud defnydd o rywbeth ar ran yr ymgeisydd yw pan mae’n cael cyfarwyddiadau, awdurdod, neu yn cael ei annog gan yr ymgeisydd neu’r asiant i’w ddefnyddio.2
Wrth ‘ddefnyddio’ rhodd mewn da, mae’n ofynnol bod ychydig o gyfranogiad gweithredol gan yr ymgeisydd (neu rywun ar ei ran) i wneud defnydd o’r nwyddau neu’r gwasanaethau a ddarperir.
Gall ‘defnyddio’ gynnwys:
cyfrannu’n bersonol - er enghraifft, mae’r ymgeisydd yn darparu cynnwys ar gyfer taflenni y mae cwmni wedyn yn eu cynhyrchu a’u danfon, felly’n defnyddio’r gwasanaethau a ddarperir gan y cwmni
trefnu i rywun arall gyfrannu ar eich rhan - er enghraifft, gofyn i wirfoddolwyr lleol y blaid i helpu i ddosbarthu taflenni sy’n cael eu darparu gan eu plaid
Er enghraifft, mae grŵp ymgyrchu yn anfon taflenni at un o’i ymgeiswyr eu defnyddio yn ymgyrch yr ymgeisydd, ond nid yw’r ymgeisydd a’i asiant yn dosbarthu’r taflenni.
Yn yr enghraifft hon, nid yw’r ymgeisydd, nac unrhyw un ar ei ran, wedi defnyddio’r taflenni yn ei ymgyrch. Nid gwerthiant tybiannol yw hyn. Ni ddylai’r costau ar gyfer y taflenni gael eu cynnwys ar ffurflen yr ymgeisydd gan na chafodd y taflenni eu defnyddio.