Mae enghreifftiau yn cynnwys costau cludo gwirfoddolwyr neu ymgyrchwyr eraill i’r ardal etholiadol, oddi yno neu o’i hamgylch, pan maent yn ymgyrchu ar ran yr ymgeisydd. Gall y costau cludiant hyn gynnwys:
prynu neu ad-dalu cost tocynnau ar gyfer unrhyw gludiant
llogi cerbydau
prynu tanwydd neu wefru cerbyd trydan
costau parcio
Mae’n cynnwys y gost o ddarparu cludiant i’r asiant lle delir neu ad-delir hyn gan yr ymgeisydd neu drydydd parti.
Cludiant yr ymgeisydd
Mae ‘treuliau personol’ yn cynnwys treuliau teithio rhesymol yr ymgeisydd o ran yr etholiad.1
Pan mae cost cludiant yn draul bersonol ar gyfer yr ymgeisydd, nid yw hwn yn cyfrif tuag at ei derfyn gwariant. Rhaid ei chofnodi fel traul bersonol yn y ffurflen wariant. Gweler Treuliau personol am ragor o wybodaeth.
Cludiant i ddigwyddiad
Mae’n cynnwys y gost o gludo unigolion i ddigwyddiad sy’n hyrwyddo'r ymgeisydd, lle telir neu ad-delir y gost honno gan yr ymgeisydd neu drydydd parti arall.
Cludiant sy’n hyrwyddo’r ymgeisydd
Mae hefyd yn cynnwys y gost o ddefnyddio, neu logi, unrhyw gerbyd neu ddull cludiant sy’n arddangos deunydd sy’n hyrwyddo’r ymgeisydd, gan gynnwys:
dylunio a chymhwyso’r dyluniad i’r cerbyd neu’r dull trafnidiaeth
gyrru neu symud cerbyd o amgylch ardal etholaethol benodol
ffioedd parcio
Costau sydd wedi’u heithrio
Nid oes rhaid adrodd am y costau canlynol:
pan delir cost y cludiant gan yr unigolion a ddefnyddiodd y cludiant ac nid yw’n cael ei had-dalu2
pan mae cludiant yn cael ei ddarparu gan unigolyn arall, a chafodd y dull cludiant ei gaffael gan yr unigolyn hwnnw ar gyfer ei ddefnydd personol ac mae’r ymgeisydd yn cael ei ddefnyddio am ddim3
Er enghraifft, mae gwirfoddolwr yn defnyddio’i gerbyd ei hun i yrru ei hun a gwirfoddolwyr eraill o amgylch yr ardal etholiadol wrth ymgyrchu. Nid yw hyn yn cyfrif fel gwariant ymgeisydd.